Gwaith Ceiriog/Cavour
Gwedd
← Y defnyn cyntaf o eira | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Y milwr na ddychwel → |
CAVOUR
I fyny'r mynydd dringai ef
Wrth ochor Garibaldi,
I weld yr haul yn dringo'r nef—
Haul Rhyddid Itali.
Ond cyn i'r haul ymddangos ar ben y mynydd mawr
Fe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr.