Gwaith Ceiriog/Dychweliad y Cymro

Oddi ar Wicidestun
Y fenyw fach a'r Beibl mawr Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Darlun-Nant y Mynydd

DYCHWELIAD Y CYMRO I'W WLAD EI HUN

O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir,
O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir,
Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos.
Cyfeiriais fy nghamrau i'r ardal hoff hon,
Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed;
Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed,
A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.

Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed,
Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin;
O'r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed,
I wledydd y mêl a gwinllannoedd y gwin;
Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen;
Mi groesais y môr i eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen,
Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.