Gwaith Ceiriog/Y fenyw fach a'r Beibl mawr
← Gwaith Ceiriog/Gwyn, Gwyn Yw Mur | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Dychweliad y Cymro → |
Y FENYW FACH A'R BEIBL MAWR
(Mae y gân hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o'r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, ar y dydd a'r awr grybwylledig.—J. C. H.)
Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei channwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A'i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu 'r wylo iddi' hun,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai 'r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,
A llosgi 'r oedd y gannwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio 'r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddïau taer,
A darllen y Beibl mawr.
Disgynnai 'r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau 'r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythâu
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai'r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i'r nef,
Yn sŵn yr hen Feibl mawr.
Disgynna 'r gwlaw, ac eto 'r gwynt
A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei channwyll frwyn;
Ar ôl ei thad, ar ôl ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.