Gwaith Ceiriog/Dychweliad yr hen filwr

Oddi ar Wicidestun
Tros un o drumiau Berwyn Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Trwy wledydd dwyreiniol

DYCHWELIAD YR HEN FILWR

Pell, pell, yw telyn Cymru
O fy llaw;
Do, dywedais gan alaru—
Byth ni ddaw,
O'r dydd y cenais ffarwel
A chwi wrth fynd i ryfel,
O'm mewn bu'r geiriau dirgel—
"Byth ni ddaw."
A rhuai safn y fagnel,
"Byth ni ddaw."

Ffarweliais pan yn fachgen
Gyda chwi,
Yng nghanol dyddiau llawen
Rhannwyd ni;
Ond nid yw'r floedd fu'n galw
Tros ryddid, gwlad, ac enw,
O fewn fy nglust yn farw,
Na, mae cri
A llais yr amser hwnnw
Gyda mi.

Ond nid yw'r holl wynebau
Ger fy mron,
Yr hardd rosynaidd ruddiau
Ieuanc llon.
Bu pellder i'n gwahanu,
Bu amser yn ein gwynnu,—
Do, do, mae wedi claddu
Oll o'r bron;
Ac atynt y'm yn nesu
Bawb a'i ffon.

Wyt eto, delyn Cymru,
Yn fy llaw;
Ond ieuanc nerth i'th ganu,
Byth ni ddaw.
Ond clywaf swn dy dannau
Yn murmur megis tonnau,
Ar fôr yr hen amserau
Yn ddidaw;
Yn torri ar hoff lannau—
Pell, pell, draw.

I'th erbyn delyn heddwch,
Pechais i;
Ond eto mewn tawelwch
Wele ni.
Mae llaw a driniodd arfau,
Mae llaw wasnaethodd angau
Yn cyffwrdd gyda'th dannau
Anwyl di;
Os aeth o gof dy chwarau,
Torrer hi.

Na, na, er ei chaledu
Gan y cledd,
Daw rhwng y bysedd hynny
Bennill hedd;
Os gwelir dwfn ysgrifen
Blynyddoedd ar fy nhalcen,
Os ciliodd enw bachgen
O fy ngwedd—
Rwy'n teimlo eto'n llawen,
Ger fy medd.


Gwir sylweddoliad breuddwyd
Ger fy mron,
Yw gweled eto'r aelwyd
Anwyl hon.
Ar faesydd rhuddion angau
Trwy dewfwg y magnelau,
Cyfeiriais fil o weithiau
Tros y don;
At gysegredig furiau
Mebyd llon.

Pell, pell, fu telyn Cymru
O fy llaw;
Do, dywedais gan alaru,—
Byth ni ddaw.
Ond wele ni, gyfeillion,
Yn yfed gwin cysurlon
O gwpan hen adgofion
Yn ddifraw,—
A wele'r tannau mwynion
Yn fy llaw.