Gwaith Ceiriog/Tros un o drumiau Berwyn

Oddi ar Wicidestun
Ffarwel iti, Gymru fad Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Dychweliad yr hen filwr

TROS UN O DRUMIAU BERWYN

(O "Owain Wyn.")

Tros un o drumiau Berwyn.
Ryw noson ddistaw oer,
Y teithiai gŵr lluddedig
Wrth oleu can y lloer.
Fry uwch ei ben yn crynnu
'Roedd llawer seren dlos,
A chlywid yntau'n canu
Fel hyn i glust y nos:—


"Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda'r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd ynghyd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd
Wyliant uwch eu pennau'n fud.

"Mewn pellenig gartrefleoedd
Wedi ofn a phryder hir,
Hoff freuddwydion fy mlynyddoedd
Sylweddolwyd gan y gwir;
Os ffarweliodd anobeithion
Ar fy ngenedigol wlad,
Ni ffarweliais yn fy nahalon
Gydag anwyl dŷ fy nhad.

Dacw'm cartref is y goedwig,
Groesaw! hen arwyddion hedd;
Dacw'r fynwent gysegredig,
Wele'r ywen—dyna'r bedd!"
Darfyddodd cân y teithiwr
Mewn teimlad llon a phrudd,
A deigryn gloew, gloew,
Ollyngodd tros ei rudd.

Aeth heibio dôr ei gartref,
Os gofyn wnei paham,
Awgrymed dy deimladau,
A chofia fedd ei fam!
A threnlio'r noson honno
Ar fedd ei fam wnaeth ef,
Nes suddo'r seren fore
I eigion gwyn y nef.