Gwaith Ceiriog/Ffarwel iti, Gymru fad
Gwedd
← Glogwyn anwyl | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Tros un o drumiau Berwyn → |
FFARWEL ITI, GYMRU FAD
Ffarwel iti, Gymru fad,
Mynd yr ydym tros y tonnau,
Mynd gan adael ar ein holau
Beddau mam a beddau tad;
O ffarwel, ein hanwyl wlad.
Tua'r lan fe drodd y bâd,
Tra cyfeillion ger yr afon
Godant eu cadachau gwynion;
Rhaid dy adael, Gymru fad,
O! ffarwel, ein hanwyl wlad.
Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,
Bydd yr heniaith a ddysgasom,
A'r alawon a ganasom
Gyda ni mewn estron wlad;
Ffarwel iti, Gymru fad.