Gwaith Ceiriog/Glogwyn anwyl

Oddi ar Wicidestun
Garibaldi a charcharor Naples Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Ffarwel iti, Gymru fad

GLOGWYN ANWYL

(O "Owain Wyn.")

Glogwyn anwyl, hoff gan i
Yw hamdden am fynudyn,
Taflu carreg i fy nghi,
Neu eistedd ar dy gribyn:
Gwylio'r afon glir islaw,
A gollwng fy myfyrion
I'r terfysglyd drefydd draw,
Ym miwsig ei murmuron.

Bywyd Bugail—bywyd yw
Nas gŵyr y byd am dano,
Heibio'r bryniau wele'r byw
Fel nant yn rhedeg heibio;
Golud, enw, bydol fri,
Yw eilun-dduwiau dynion;
Mwy na'r oll i'm golwg i
Yw praidd y bryniau gwylltion.

Praidd y mynydd—O! fy mhraidd!
Mae pleser wrth eich gwylio,
Cyn i'r ser fachludo braidd,
A chyn i'r dwyrain ddyddio;
Pan gusano'r haul y lli',
Y'm gyda chwi ein defaid;
Fel ein calon, felly chwi
Ym mynwes eich bugeiliaid.

Gyda phraidd y mynydd gwyllt,
Tynghedwyd ni a'n dyddiau;
Llwybrau defaid, ŵyn a myllt,
Yw'r llwybrau deithiwn ninnau;

Weithiau tan y creigiau certh,
Yng nghanol y mynyddoedd,
Dim i'w weld ond bryniau serth,
A thyner lesni'r nefoedd;

Yna dringo pen y bryn,
Hyd risiau craig ddaneddog,
Gweld y nant, y cwm, a'r glyn,
Y ddôl, y gors, a'r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd, yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o'n tadau.

Llawer craig fygythiol sydd
Yn gwgu ar ein bywyd;
Ond mae arnynt ddwylaw cudd,
Ac nid oes maen yn syflyd;
Clywir llais y dymhestl gref,
A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau'r nef,
Ond huno wna'r mynyddoedd.

Fel yr hen fynyddoedd clyd
Y'm ninnau ym mysg dynion;
Ysed tân ddinasoedd byd,
A chwymped seddau'r mawrion,
Llwybro gyda'n defaid wnawn,
A thrin ein huchel diroedd;
Hûn o bur dawelwch gawn
Ym mynwes y mynyddoedd.