Gwaith Ceiriog/Garibaldi a charcharor Naples

Oddi ar Wicidestun
Y milwr na ddychwel Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Glogwyn anwyl

CARCHAROR NAPLES

Mewn carchar du oer y cadwynwyd fi,
Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio—bloeddio!
A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri,
Fod y dydd yn dod i fy nghollwng i;
A dyna fagnelau yn rhuo,—rhuo!
Mae'r dorf yn cyhoeddi Jubil-ddydd,
Garibaldi sy'n dyfod im' gollwng yn rhydd.

Mi glywaf yn dod offerynau pres,
A mil o dabyrddau yn tyrddu,—tyrddu!
Cân rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwres
Fel y del yn mlaen, yn nes ac yn nes,
Nes mae fy hen garchar yn crynnu,—crynnu!
Fe wêl fy ngolygon oleu ddydd,
Garibaldi sy'n dyfod i'm gollwng yn rhydd.

Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys,
Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn—bloeddiwn,
Mae'r Eidal ein gwlad yn rhydd yn ddilys,
Mae y sedd yn wag yn y gormes lys,
Caneuon Itali, O! canwn,—canwn!
A diolch i'r nefoedd, daeth y dydd,
Garibaldi gyrhaeddodd, mae'r Eidal yn rhydd.