Gwaith Ceiriog/I gadw'r hen wlad mewn anrhydedd

Oddi ar Wicidestun
Cerddi Cymru Sydd yn Byw Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Myfi sy'n magu'r baban

I GADW'R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD

I gadw'r hen wlad mewn anrhydedd,
A'r cenin yn fyw a difêth;
Mae rhai yn prydyddu'n ddiddiwedd,
Ond dyma fy marn am y peth,—
Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion,
Neu'r dalent ddisgleiriaf a roed,
Yw tafod y bachgen bach gwirion,
Na ddwedodd anwiredd erioed.

Cydgan


Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol,
Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd,
I'r geirwir, a'r gonest, a'r gwrol,
Sy'n cadw'r geninen yn werdd.

Mi adwaen gribddeiliwr ariannog,
Sy'n deall bob tric i wneud pres;
Ond anhawdd anichon cael ceiniog
O'i boced at ddim a fo lês.
Pan allan, os a yn ei gerbyd,
Pan gartref os tyn yn ei gloch;
Mae'n well i ni'r gonest a'r diwyd
Pe na bai yn werth dimeu goch.

Ym mhell y bo'r bobol sy'n grwgnach,
Yn erbyn caledrwydd y byd,
Y rhenti a'r prisiau a'r fasnach,
Tra plethant eu dwylaw ynghyd.
Nid felly y byddai'r hen Gymry,
Ac os yw dy waed ti yn bur,
'R wyt yn edrych yn wrol i fyny
Ac yn fachgen sy'n gweithio fel dur.