Gwaith Ceiriog/Cerddi Cymru Sydd yn Byw

Oddi ar Wicidestun
Dydd trwy 'r ffenestr Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

I gadw'r hen wlad mewn anrhydedd

CERDDI CYMRU SYDD YN BYW

Cerddi Cymru sydd yn byw,
Trwy'r blynyddau yn ein clyw;
Sibrwd ein halawon gynt,
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen donau pur ein gwlad.

Pan sisialo dail y llwyn,
Clywir chwi yn lleddf a mwyn;
Dweyd mae'r môr wrth ruo'i gân
Ddarnau cerddi Cymru lân;
Ac mae clust y Cymro'n gwneyd
I'r gre'digaeth oll eu dweyd.