Gwaith Ceiriog/Dydd trwy 'r ffenestr

Oddi ar Wicidestun
Peidiwch byth a dwedyd hynny Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Cerddi Cymru Sydd yn Byw

DYDD TRWY'r FFENESTR

Alaw,—Dydd Trwy'r Ffenestr

Mae rhyddid i wylan y môr gael ymgodi,
Ac hedeg i'r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau'r Eryri
Ehedeg i waered i weled y wîg;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu
Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda'r wawr, byddwn ninnau'n rhydd,
Byddwn yn rhydd!

Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;
Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;
Pan welom oleuni yn gwynnu'r ffenestri,
Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda'r wawr, byddwn ninnau'n rhydd,
Byddwn yn rhydd!