Gwaith Ceiriog/Peidiwch byth a dwedyd hynny
Gwedd
← A ddywedaist ti fod Cymru'n dlawd? | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Dydd trwy 'r ffenestr → |
PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY
(Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a'u
canodd yn Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.)
I
D'wedwch fod fy ffroen yn uchel,
Fod fy malchder yn drahaus,
Fod gwamalrwydd ar fy wyneb
A mursendod yn fy llais.
Ond mae terfyn i anwiredd,
I greulondeb a sarhad.
Peidiwch byth a dwedyd hynny,
Imi golli'm serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.
II
O mor barod ydyw dynion
I drywanu at y byw;
O mor gyndyn ydynt wedyn
I roi eli ar y briw.
Dodwch garreg ar fy meddrod,
Fel y mynnoch bo'r coffâd;
Dyna'r pryd i dd'wedyd hynny,
Imi golli'm serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.