Gwaith Dafydd ap Gwilym/Cân Bronfraith

Oddi ar Wicidestun
Colli'r Haf Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Morfudd

CAN BRONFRAITH

MAWR yw'r gelfyddyd, a maith,
Ar brenfrig a roe'r bronfraith,
Wybod datod mydr-glod mawl
Yn y llwyni meillionawl.
Clo mydr, clyw ei ymadrawdd,
A chlo y cân ni chlyw cawdd,
Modd y gŵyr, medd a garai,
A merch a'i gwrendy ym Mai.

Y ceiliog, serchog ei son,
Bronfraith dilediaith, loew-don,
Dawn fad lun dan fedw, ei lais,
Deg, loew-iaith, doe a glywais.

Ba ryw ddim a fu berach,
Blethiad ei chwibaniad bach?
Pylgain y darllain deir-llith,
Plu yw ei gasul i'n plith.
Pell y clywir uwch tiroedd,
Ei lef o'i lwyn, a'i loew-floedd.
Proffwyd rhyw praff awdur hoed,
Pencerdd gloew angerdd glyngoed
Pob llais diwael, yn ael nant,
A gân ef o gu nwyfiant;
Pob caniad mad mydr angerdd,
Pob cainc ar organ, pob cerdd;
Pob cwlm addwyn er mwyn merch,
Ymryson am oreu-serch;
Pregethwr, a lluniwr llên—
Per ewybr, pur ei awen;
Prydydd cerdd ofydd ddifai;
Prif urddas, mwyn was y Mai ;
Adlais lon o dlos lannerch,
Odlau, a mesurau serch.


Edn diddan, a gân ar gyll,
Ymwisgiad angel esgyll,
Odid ydoedd i adar
Paradwys cyfrwys, a'i câr,
O dre iawn-gof drugan-gerdd.
Adrodd a ganodd o gerdd.
Adwaen ef, o'i fedw nwyfoed,
Awdwr cerdd adar y coed.

Nodiadau[golygu]