Gwaith Dafydd ap Gwilym/Morfudd

Oddi ar Wicidestun
Cân Bronfraith Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Rhosyr

MORFUDD

YN dyfod yn deg ddiseml,
Heb wg, nod amlwg, i'r deml,
A'r lluoedd arni'n edrych
Ar lawr disgleirfawr, wawr wych,—
I myfi daeth ymofeg,
Ymofyn,—Pwy yw'r dyn deg?

Chwaer yw hon, lon oleur-loer,
Undad i'r lleuad a'r lloer;
A nith i des ysblenydd,
A'i mam oedd wawr ddinam ddydd;
Ac o Wynedd yr henyw,
Ac ŵyr i haul awyr yw.

Nid gwen un wraig a'r adwaen,
Nid gwyn calch ar siamber falch faen,
Nid gwen gwelwdon anghyfuwch,
Nid gwyn euryn llyn, na lluwch,
Nid gwyn pryd dilys disglair,
Wrth bryd gwyn fy myd, myn Mair.
Cyngwystl a wnawn heb gyngor,
(Lliw ton geirw pan feirw ar for)
Nad byw'r Cristion credadyn
A gai le bai ar liw bun;
Onid ei bod yn glod-gamp,
Dyn fach yn loewach na'r lamp.

Na fid rhyfedd gan Gymro
Alw bun o'r eiliw y bo ;
Poed i'r gyllell hirbell hon
I gerdded gwaed ei galon
A'i cymerai yn hyfryd,
A maddau bun, meddu byd.


Nodiadau[golygu]