Gwaith Dafydd ap Gwilym/Canu'n Iach

Oddi ar Wicidestun
Gwallt Merch Ifor Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Fwyalchen

CANU'N IACH.

I IFOR HAEL, PAN YMADAWODD Y BARDD
A'I LYS I FYNED I GLERA I WYNEDD.

UFUDD serchogion ofeg,
Ifor, teyrnaidd ior teg,
Myned fal y dymunwyf,
Ar iawn, i Wynedd yr wyf;
Deufis yn nwylan Dyfi
Ni allwn fod hebot ti.

Y galon, bedrogigron bor,
Ni chyfyd, yn iach Ifor!
Na llygad graddwlad gruddwlych,
Na llaw, na bawd, ile ni bych.
Nid di-fudd rym im yma,
Nid oedd gall, na deall da
I neb, a garai naw
Diodydd gwin, dy adaw.

Maith yth ragoriaeth a gerir,
Mawr ior teg y môr a'r tir.
Cawn o ddawn a eiddunwyf,
Cywaethog ac enwog wyf,-
O eiriau teg, o ariant,
Ag aur coeth, fel y gwyr cant ;
O ddillad, nid bwriad bai,
Ac arfau Ffrengig erfai ;
Ufudd gost o fedd a gwin,
O ail Daliesin.
Tirion grair, tarian y gred,
Tydi Ifor, tad yfed,
Enw tefyrn, ynad hoewfoes,
Wyneb y rhwydd-deb, a'u rhoes.

Nodiadau[golygu]