Gwaith Dafydd ap Gwilym/Gwallt Merch Ifor

Oddi ar Wicidestun
Diolch am Fenyg Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Canu'n Iach

GWALLT MERCH IFOR HAEL[1]

Y fun a'r gwallt o fanaur,
A roe lawnt ar wiail aur;
Un radd a llwyn o ruddaur,
Lliw Non dan y llwyn o aur;
Gwisg angel o wallt melyn,
Yn wrŷdd aur am war y ddyn;
Fal goddaith yn ymdaith nos,
Yw'r llwyn uwch pryd y llinos;
Uwch feinir goldwir a gaid,
Hyd dwyraff o het euraid;
Iarlles dan gnwd o eurllin,
Banadl aur o ben hyd lin;
Lliw'r mellt goruwch y gelltydd,
Coed aur gwiw cyhyd a'r gwydd;
Bronbelau fal siopau Sieb,
A droes hon dros ei hwyneb;
Gwefr o liw, neu gyfryw lwyn
I guddio dyn deg addwyn;
Sirian yn mysg y manaur,
Coron o wallt, cwyr neu aur;
Maner aur pan ymwenynt
Lliw tân y Gad Gamlan gynt;
Crwybr o aur pan ei cribai,
Pwn mawr o esgyll paun Mai;
Mae'r pryd ym marn y prydydd
Ac aur ar hwn, pan fae'n rhydd
Ei liw a welai luoedd,
Drwy'r byd un dihareb oedd
Ei oleurwydd noswyl Ieuan,
A'i frig yn debyg i dân.


Nodiadau[golygu]

  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A176