Gwaith Dafydd ap Gwilym/Diolch am Fenyg

Oddi ar Wicidestun
Maesaleg Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Gwallt Merch Ifor

DIOLCH AM FENYG.

IFOR ydoedd afradaur,—
O'i lys nid ai bys heb aur.

Doe'r oeddwn, gwn, ar giniaw,
I'w lys yn cael gwin o'i law.
Mi a dyngaf â'm tafawd,
Ffordd y trydd gwehydd gwawd,
Goreu gwraig hyd Gaer Geri,
A goreu gŵr yw d' wr di ;
Tra fu'n trafaelu trwy fodd,
Trwy foliant y trafaeliodd.

Y dydd y daethum o'i dai,
A'i fenyg dwbl o fwnai,
Benthyg ei fenyg i'w fardd
A roi Ifor oreufardd,—
Menyg gwynion tewion teg,
A mwnai ym mhob maneg;
Aur yn y naill, diaill dau,
Arwydd yw i'r llaw orau ;
Ac ariant, moliant miloedd,
O fewn y llall, f'ennill oedd.

Merched a fydd yn erchi
Benthyg fy menyg i mi;
Ni roddaf, dygaf yn deg
Rodd Ifor, rwydd ei ofeg.
Ni wisgaf faneg nigys
O groen mollt, i grino 'mys;
Gwisgaf, ni fynnaf ei far,
Hyddgen y gŵr gwahoddgar;
Menyg gwyl am fy nwylaw,
Ni bydd mynych y gwlych gwlaw.


Rhoddaf i hwn,—gwn ei ged,
Nawdd rhugl neuadd Rheged,—
Bendith Taliesin windost,
A bery byth, heb air bost.
I ben y bwrdd, erbyn bwyd,
Yno'r el yn yr aelwyd,—
Lle trosa rhan o'm traserch,
Lle dewr mab, lle diwair merch;
Lle trig y bendefigaeth,
Yn wleddau, yn foethau'n faeth;
Yn wragedd teg eu hegin,
Yn feirch, yn weilch, yn win;
Aml drwsiad, rhad rhydeg,
Yn aur tawdd, yn eiriau teg.
Nid oes bren yn y Wenallt
Na bo'n wyrdd ei ben a'i wallt,
A'i gangau yn ogyngerth,
A'i wn, a'i bais yn un berth.
Pand digrif yw i brifardd
Weled hoew gynired hardd
Arglwyddiaeth, dugiaeth deg,
A seiliwyd yn Maesaleg.

Menyg o'i dref a gefais,
Nid fel menyg sarrug Sais;
Menyg pur galennig por
Mwyn-gyfoeth, menyg Ifor;
Menyg pendefig Dafydd,
Ifor Hael, pwy'n fwy a'i rhydd ?
Fy mendith wedi nithiaw,
I dai Ifor Hael y daw.


Nodiadau[golygu]