Gwaith Dafydd ap Gwilym/Maesaleg

Oddi ar Wicidestun
Ifor Hael Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Diolch am Fenyg

MAESALEG.

CENNAD O LYS IFOR YM MORGANNWG, AT GYMDEITHION Y
BARDD YM MON, I OFYN IDDYNT ET HEBGOR YNO,
OHERWYDD EI FAWR GROESO GAN IFOR HAEL.

CERDDA was, câr ddewis-ffyrdd,
Canfod gwymp uwch cein-fedw gwyrdd;
O Forgannwg dwg dydd da
I Wynedd, haelfedd hwylfa;
Ac anwyl wyd, befr-nwyd byd,
Ag annerch gwlad Fon gennyd.

Dywaid-o'm gwlad ni'm gwadwyd,
Diog wyf,-dieuog wyd,—
A'm bod ers talm, salm Selyf,
Yn caru dyn uwch Caerdyf.
Nid salw na cham fy namwain,
Ac nid serch ar un ferch fain,—
Mawrserch Ifor a'm goryw,
Mwy na serch ar ordderch yw.
Serch Ifor a glodforais,
Nid fal serch anfadful Sais;
Ac nid af, berffeithiaf bôr,
O'i serch ef, os eirch Ifor,
Nag undydd i drefydd drwg,
Nag unnos o Forgannwg.

Pand digrif yng ngwydd nifer,
Caru claer, nod-saethu cler;
Goludog hebog hybarch,
Gŵr ffyrf iawn ei gorff ar farch;
Campiwr, aer cyflymder coeth,
Cwmpas-ddadl walch campus-ddoeth

Carw difarw Deifr ni oddef,
Cywir iawn y cae wyr ef.

Mawr anrhydedd a'm deddyw,
Mi a gaf, o byddaf byw,
Hel â chwn, nid haelach ior,
Ac yfed gydag Ifor;
Seuthu ei geirw saeth-hynt,
A bwrw ei weilch i'r wybr hynt;
A cherddau cildannau'n deg,
A solos ym Maesaleg,
Chwareu ffristial, a thawlbwrdd,
Yn un gyflwr a'r gŵr gwrdd.

O cai neb gytundeb coeth,
Rhagor rhag y llaw rhygoeth,
Rhigl â cherdd yr anrhegaf,
Rhagor gan Ifor a gaf.
Nid hael wrth gael ei gyfri,
Nid dewr neb, ond ein teyrn ni;
Nid af o'i lys, diful ior,
Nid ufudd neb ond Ifor.

Nodiadau[golygu]