Neidio i'r cynnwys

Gwaith Dafydd ap Gwilym/Gwyneb Mynaches

Oddi ar Wicidestun
Y Niwl Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Dyddgu

GWYNEB MYNACHES.[1]

NI WELSAI Y BARDD OND EI HWYNEB, GAN EI CHREFYDDWISG.

DAL neithiwr, delwi wnaethum,
Drem o bell, yn drwm y bum,
Yn nhàl (Och na thariai'n hwy!)
Ac yn wyneb Gwenonwy.

Anfoddlawn fum, gorfum ged,
I'm golwg am ei gweled;
Delw eurddrych, dwyael eurddrym,
Deuwell oedd petawn dall im;
Daroedd ni bu wisgoedd waeth
I dailiwr o hudoliaeth;
Deuliw Nyf, nis dylai neb
Duaw hon. Ond ei hwyneb
A'i thal mi a'i dyfalwn,—
Och, Dduw Tad, na chuddiwyd hwn.
Megis o liw,-megais lid,—
Mŷr eira, neu faen mererid.

Mwyn y gosode yr Iesu
Am eira dal y mwrai du;
Dwyael geimion, delw gymwys,
Deurwym lân ar y drem lwys.

Diliau yw ei haeliau hi,
Dail sabi fal dwyael Sibli;
Muchudd deurudd, a'u dirwyn,
Main eu tro ym mon y trwyn.
Mwyalchod teg ym mylch ton,
Mentyll didywyll duon;

Dwy ffynnon wirion warae,
Eu dwyn uwch meindrwyn y mae;
Gwreichion aur, grechwen araul,
Gwedi eu rhoi mewn gwydr a haul,
Amrant du ar femrwn teg,
Fal gwennol ar fol gwaneg.

Dau afal aur, difai lun,
Dwy nobl aur dan wyneblun ;
Diliau rhos, dail o aur rhudd
A dorrwyd ar ei deurudd;
Granau cwyr mewn gryniau calch,
Grawn gwingoed ar groen gwyngalch;
Ceirios addfed, cwrs addfwyn,
Cwrel, lliw criawol llwyn;
Dwy sel o liw grawn celyn,
Dagrau gwaed ar deg eira gwyn;
Dail ffion grynion eu gwraidd,
Dwy og faenen deg fwynaidd.

Dyfelais bryd fy myd main.
Ei deurudd 'fal haul dwyrain;
Dwys oedd dwy wefus heddyw,
Ar enau llen o'r un lliw,
Yn gweini claer ddidaer ddadi,
A ffroenau a pher anadl;
Ac aelgeth, liw ffrwd gweilgi,
A gyrraedd hyd ei grudd hi;
Hoew ar fwnwgl hir feinwyn,
Golwg teg fydd gweled hyn.

Dug fy nau lygad o dwyll,
Do, gennyf, fal dwy ganwyll.


Nodiadau

[golygu]
  1. gwaith Hywel ap Dafydd, maen debyg, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A43