Gwaith Dafydd ap Gwilym/Dyddgu

Oddi ar Wicidestun
Gwyneb Mynaches Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Lleian

DYDDGU.
A IEUAN GRUFFUDD EI THAD.

IEUAN, ior gwaew-dan gwiw-dad
Iawn fab Gruffydd, cythrudd cad,
Wyr Cuhelyn, wyn winglaer,
Llwyd unben, wyd iawn ben aer.
Y nos arall, naws arial,
Bum i'th dŷ, y bo maith dâl.
Nid hawdd er hynny hyd heddyw,
Hoen wymp, im gaffael hun wiw.

Dy aur a gawn, radlawn rydd,
Dy loew-win, dy lawenydd.
Dy fedd glwys di-faddau i gler,
Dy fragod du ei friger.

Ni chysgais, ni weais wawd,
Hun na'i dryll, heiniau drallawd.
Duw lwyd, pwy a'm dilea,
Dim yn fy nghalon nid a
Eithr ei chariad taladwy,
Orhoed im oll, ai rhaid mwy?
Ni'm câr hon, fo'm curia haint,
Fe'm gad hun, fe'm gad henaint.
Rhyfedd yw doethion Rhufain,
Rhyfeddach pryd fy myd main.
Gwynnach nag eira gwanwyn,
Gweddw wyf o serch dy ferch fwyn.
Gwyn yw'r tàl dan y wialen,
Du yw'r gwallt, diwair yw gwen.
Duach yw'r gwallt, diochr gwŷdd,
Na mwyalchen, na muchudd;

Gwynder disathr ar lathrgnawd,
Yn duo'r gwallt, iawnder gwawd.
Nid anhebyg, ddiddig ddydd,
Modd ei phryd, medd ei phrydydd,
I'r ferch hygar a garawdd
Y milwr gynt, mawlair gawdd,
Peredur, ddwys-gur ddisgwyl,
Fab Efrog, gwrdd farchog gwýl;
Pan oedd yn edrych, wych wawl,[1]
Yn yr eira, ion eryrawl,
Llen asur ger Llwyn Esyllt,
Llwybr lle bu'r gwalch gwyllt
Yn lladd, heb un a'i lluddiai,
Mwyalch, morwyn falch, ar fai.
Yno yr oedd iawn arwyddion,
Pand Duw a'i tâl, paentiad hon,—
Mewn eira, gogyfuwch lluwch llwyth,
Modd ei thàl, medd ei thylwyth;
Asgell y fwyalch esgud
Megis ei hael, megais hud;
Gwaed yr edn gwedi'r odi,
Gradd hael, mal ei gruddiau hi.

Felly y mae, eurgae organ,
Dyddgu a'r gwallt gloewddu glân.


Nodiadau[golygu]

  1. A phan ddaeth allan yr oedd cawod o eiry wedi odi y nos gynt, a gwalch wyllt wedi lladd hwyad yn nhal y cuddugl. A chan dwrf y march, cilio o'r walch; a disgyn brân ar gig yr aderyn. Sef a orug Peredur sefyll, a chyffelybu duedd y frân,a gwynder yr eira, a chochder y gwaed, i wallt y wraig fwyaf a garai, a oedd cyn ddued a'r muchudd, a'i chnawd, oedd cyn wyned a'r eiry, a chochder y gwaed yn yr eiry i'r ddeufan gochion oedd yn ei gruddiau.—MABINOGI PEREDUR AB EFRAWG.