Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Lleian

Oddi ar Wicidestun
Dyddgu Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Deildy

Y LLEIAN[1]

CARU dyn lygeid-du lwyd,
Yn ddyfal a'm gwna'n ddifwyd.

Ai gwir, y ferch a garaf,
Na fynni fedw hoewdw' haf;
Ac na thewi yn y ty tau,
Wyth liw ser, a'th laswyrau?
Crefyddes a santes wyd,
Caredig i'r côr ydwyd;
Er Duw, paid a'r bara a'r dŵr,
A bwrw ar gas y berwr;
Paid, er Mair, a'r pader main,
A chrefydd myneich Rhufain.
Na fydd leian y gwanwyn,
Gwaeth yw lleianaeth na llwyn;
Dy grefydd, deg oreu-ferch,
Y sydd wrthwyneb i serch.
Gwarant modrwy, a mantell,
A gwrdd wisg, a urddai'n well.
Dyred i'r fedw gadeiriog,
I grefydd y gwŷdd a'r gôg;
Ac yno ni'n gogenir,
Ennill Nef yn y llwyn îr.
A chadw i'th gof lyfr Ofydd,
A phaid a gormod o ffydd.
Ninnau gawn yn y gwynwydd,
Yn neutu'r allt, enaid rhydd.
Ai gwaeth i ddyn, gwiw ei thaid,
Yn y llwyn ennill enaid
Na gwneuthur fel y gwnaetham
Yn Rhufain ac yn Sain-Siam?


Nodiadau[golygu]

  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A22