Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Deildy

Oddi ar Wicidestun
Y Lleian Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Ceiliog Mwyalch

Y DEILDY.

Y DDYN gannaid, ddawn gynneddf,
Dyddgu, a'r gwallt lliwddu lleddf,
Dy wahawdd, drych y tri-phlwyf,
I Ddôl yr Aeron ydd wyf.

Tra fo'm allan tan y dail,
Cynnes fedw a'n cynnail;
Lie cyrch iyrchod rhywiog-ryw,
Lle cân edn, lle cain ydyw,—
Eos gefnllwyd ysgafnllef,
A bronfraith ddigrifiaith gref.
Naw pren, teg eu hwynepryd,
Y sydd o goedydd i gyd;
Lloches adar i chwareu,
Llwyn mwyn, llyna'r llun y mae,—
I wared, yn grwn gwmpas,
I fyny, yn glochdy glas;
O danyn, eiddun addef,
Meillion aur, myn Myllin nef.
Lle newydd adeilwydd da,
Lle nwyf aml, lle nef yma;
Lle tew lletyau mwyeilch,
Lle mygr gwydd, lle megir gweilch;
Lle anhysbys, dyrus dir,
Gwerdd dwr rhag caswr coeshir.
Yno heno, hoen waneg,
Awn, ai nad awn, 'y nyn deg?
Od awn, awn, wyneb gwyn-loew,
Fy nyn lygaid gloyn gloew.


Nodiadau[golygu]