Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Ceiliog Mwyalch

Oddi ar Wicidestun
Y Deildy Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Ifor Hael

Y CEILIOG MWYALCH.[1]

CEILIOG mwyalch balch bwyll,
Dawn i'th dâl, a dyn na'th dwyll!
Cyfion mewn glyn d'emyn di,
Cyson o union ynni;
Crefyddwr wyd anwydawl,
Credi fi, croew yw dy fawl.
Gwisgaist, enynnaist annerch,
Gwisg ddu, nid er selu serch,—
Gwisg a ddanfones Iesu
Is dail it, o osai du;
A dwbl gwell na deuban,
Mawr ei glod, o'r mwrai glân;
Sidan gapan am gopa
Yn ddu rhoed yn ddiau'r ha;
Dwbled hardd-gled mewn rhedyn,
Loew-ddu glir uwch landir glyn;
Muchudd dy ddeurudd eirian,
Pig cwrel, gloew angel glân.

Prydydd wyt, medd proffwydi,
Cywyddol, manol i mi;
Awdur cerdd adar y coed,
Esgud cyw mwyn-drud meindroed;
Ys gwyddost yn osgeiddig,
Annerch Gwen dan bren a brig;
Os gwn innau o newydd,
Ys gwir gwawd ysgwier gwŷdd,
Ganu moliant a'i wrantu
I ti, y ceiliog wyt du.
Du yw dy gwfl, da ei dôn,
A'th gasul, edn-iaith gyson;
Duw a'th gatwo, tro traserch
Adain fyw, byw edn y serch.


Nodiadau[golygu]

  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A144