Gwaith Dafydd ap Gwilym/Morfudd a'r Bwa Bach
← Y Bwa Bach | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Y Brawd Du → |
- YMDDIDDAN A BRAWD DU.
A GYNGHORASAI'R BARDD I YMWRTHOD A MORFUDD.
YNA cefais druth atcas
Gan y brawd a'r genau bras,
Yn ceisio, nid cyswllt rhwydd,
Fy llygru â'i haerllugrwydd.
Llyma fal y cynghores
Y brawd a'r prudd dafawd pres,—
"Ystyr, pan welych y dyn,
Ebrwydd yr a yn briddyn;
Yn ddilys yr a ei ddelw
Yn y pridd yn ddielw."
“Cyd el y dywarchan ffloch
Yn bridd hagr, y brawd dugoch,
Nid a llewyrch cnawd mirain,
Pryd balch, ond yn lliw'r calch cain."
"Dy serch ar y ferch fein-loew,
Oreu-wallt, a'r hirwallt hoew,
Hyn a'th bair i'r pair poeth-groen,
Ac byth ni'th gair o'r pair poen."
Yna dywedais wrthaw,—
"Y brawd du ei bryd, bryf, taw!
Twrn yw anheilwng i ti
Tristhau y dyn tros Dewi;
Er dy lud a'th anudon,
A'th eiriau certh, a'th serth son,
Mefl im, o gwrthyd Dafydd,
Orai teg, ddeg yn un dydd."