Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Bwa Bach

Oddi ar Wicidestun
Anwadalwch Morfudd Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Morfudd a'r Bwa Bach

Y BWA BACH[1]

SEF CYNFRIG CYNIN, OEDD YN CYD-GARU MORFUDD A'R BARDD,
PAN OEDD Y GAIR EI BOD AR BRIODI.

BUN wen, lliw llen ar ben-frig
Lliw eira ar fron, lloer aur frig,
Ai gwir dy fod yn gwra?
Ochenaid tost, Och! nid da.
I minnau'r aeth hiraethfyd,
Os gwir golli'r maes i gyd.

Carl pwdwr, gwell teilwr tom,
Carthgwd trwyn-ffrwd tarian-ffrom;
Twrch bawlyd, tra anhyfryd dyn,
Trawsglerddesir budr, tresglerddyn;
Ci oer-dwrw ffrom, cor-darw ffrith,
Crin was baw aelfras bolfrith;
Llawdr gigagl grinfagl groenfaw,
Llwfraidd granc, byr afanc baw;
Rhasgal bach, corn crach y crydd,
Cuchiad cor, crwydrad credrydd.

Gwae fi, y ferch anerchael,
Fod rhai nith garai i'th gael;
A bod dyn rheidus uswallt,
Di-wych, i dynnu dy wallt.

Bywyd it, ferch, draserch dro;
Bar Suddas, byroes iddo,
A boed gath-gwd mewn gwden;
A chwithe i minne, Amen.


Nodiadau[golygu]

  1. Amheuaeth gryf mae nid gwaith DapG ydyw, gw: Dafydd ap Gwilym net Cerddi'r Apocryffa Rhif A16