Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Cyffylog

Oddi ar Wicidestun
Yr Hedydd Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Cyngor Brawd Llwyd

Y CYFFYLOG.

EI YRRU AT FORFUDD WEDI EI RHODDI I'R BWA BACH.

DYDD da i'r deryn gwarynlais,
Tydi hyddyf y tewddwfr,
Taer gyffylog lidiog lwfr,
Mynag, edn meinwag adain,
Mae dy chwyl, mad wyt, a chain.

"Ffest a glew y mae'n rhewi,
Ffoi ydd wyf, myn fy ffydd i,
Ar hynt, o'r lle bum yr haf,
Gofid rhag eira gauaf;
Oer a dig yw'r gaua du,
A'i luwch ni'm gad i lechu."

Dyred, na ddywed ddeuair,
Lle mae a garaf, lliw Mair,
I ochel a wel auaf,
O ras hir, i aros haf
Lle gofraisg gerllaw gofron,
Lle clywir teg, lle claer ton.
Edn yn ei hoedl ni edir,
Aderyn hardd durun hir,
O thry i'th ogylch, iaith ddrud,
Treiglwr, chwibianwr traglud,
Bollt benfras, a bwa,
A'th weled wr i'th wâl da;
Na chudd er ei lais, na chau
Dy lygad dan dy loew-gae,
Heda, brysia rhag brad,
A thwyll ef a'th ddull hoew-fad,

O berth i berth, drafferth drwch,
O lwyn i lwyn anialwch;
Glân dy dro, o glyn dy droed
Mewn magl yn min mei-goed,
Na fydd aflonydd dy lam
Wrth gryngae'r groglath gringam,
Tyn yn lew oddiam d' ewin,
A'th ddurun cryf, wyth-rawn crin.

Disgyn heddyw yn Rhinwallt,
Is ty gwen, ys teg ei gwallt;
Mynag, edn o'r mynydd,
Fy mraw caeth, fy mriwiau cudd;
Gwybydd, er delw Gybi,
Ai cywir meinir i mi;
Gwyl ei thro, gwylia, a thrig
Yno, aderyn unig;
Nid llai y cerid ei llun,
A'i glwysfryd ar y glasfryn,
Mwy na phan fu gu ei gwedd
Yn forwyn deg dan fawredd;
Pair i'm lloer, o pur i'm llas,
Garu ei bardd, gŵr heb urddas.

O'i haros bum yn oeri,
Aeth arall, hoew-gall, a hi;
Rhy-oer fu awel rhew-wynt,
I'w gwylio hi, gwaela hynt;
Gwir a gânt, gwarant gwiwras,
Y rhai gynt, er rhyw gas,
"Pren yng nghoed," mawroed yw'r mau,
"Arall a bwyall biau."


Nodiadau[golygu]