Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Hedydd

Oddi ar Wicidestun
Y Breuddwyd Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Cyffylog

YR HEDYDD

ORIAU hyder, yr hedydd
A dry fry o'i dy bob dydd;
Boreuwr byd, berw aur bill,
Parth a'r wybr, porthor Ebrill;
Lle rhadlawn, llywiwr odlau,
Llwybr chweg, llafur teg yw'r tau.
Llunio cerdd uwchben llwyn cyll,
Lledneisgamp llwydion esgyll;
Bryd y sydd gennyd, swydd gu,
A brig iaith, i bregethu;
Braisg dôn uwch ffynnon y ffydd,
Breiniau dwfn ger bron Dofydd,
Fry yr ai, iawngai angerdd,
Ac fry y ceni bob cerdd.

Fy llwyt-teg edn, fy llatai,
A'm brawd awdurdawd, od ai,
Annerch gennyd wiwbryd wedd,
Loew ei dawn, leuad Wynedd;
A chais un o'i chusanau,
Yma i'w ddwyn im, neu ddau.

Mygr swyn gaer magwyr ser,
Maith o chwyldaith uchelder;
Dogn achub, digon uched
Y dringaist, neu'r geisiaist ged;
Dysgawdwr mawl rhwng gwawl a gwyll,
Disgyn, nawdd Duw ar d'esgyll.
Moled pob mad greadur
Ei Greawdr, pefr lywiawdr pur;
Moli Duw, mal y dywaid
Mil a'i clyw,—"Hoff yw na phaid."


Modd awdur serch mau'dd ydwyd
Mwyn groew-llais mewn gra llwyd,
Cathi lân, a diddan yw'r dau
Gethlydd awenydd winau.
Cantor o gapel Celi,
Coel fydd teg, celfydd wyt ti;
Cyfor fraint aml cywraint gân,
Copa llwyd yw'r cap llydan.

Cyfeiria i'r wybr, cyfarwydd
Cywyddawl dir gwyndir gwŷdd;
Dyn uwch ben a'th argenfydd,
Dioer, pan fo hwya'r dydd;
Pan ddelych i addoli,
Dawn a'th roes, Duw Un a Thri,
Nid brig pren uwch ben y byd
A'th gynnal, mae iaith gennyd,
Ond rhadau y deau Dad,
A'i firagl am ei fwriad.

Dyfri yr wybr-for dyrys,
Dos draw, hyd gerllaw ei llys,—
Gŵr iddi fyfi a fydd,
Bar Eiddig, un boreuddydd.
Mae arnad werth cyngherth-ladd,
Megis na lefys dy ladd;
Be 'rhon a'i geisio, berw hy,
Bw i Eiddig, ond byw fyddi.
Mawr yw sercel dy berclwyd,
A bwa llaw mor bell wyd;
Trawsdir sathr, trist yw'r seuthydd,
Trwstan yn fy amcan fydd;
Trwch ei lid, tro uwch ei law,
Tra el ei hobel heibiaw.


Nodiadau[golygu]