Neidio i'r cynnwys

Gwaith Dafydd ap Gwilym/Y Plu Paun

Oddi ar Wicidestun
Yr Ysgyfarnog Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Yr Eos a'r Fran

Y PLU PAUN

Erchais i'm bun o'm unoed
Blethu cainc o blith y coed,
Yn gyrn heirdd, yn goron hoyw,
Yn erlant ym, yn ir-loyw.

"Nid oes ar fedw, nid edwyn,
O'r dail a fai wiw eu dwyn.
Ni weaf innau wiail,
Nid gwiw o'r llwyn dwyn y dail."

Im y rhoes, bid hir-oesawg
Y rhodd a gadwaf y rhawg,
Gerlant cystal ag eurlen,
O wisg paun i wasgu pen.
Blaen talaith, bliant hyloew,
Blodau hardd o blu da hoyw.
Glân wead gloywon wiail,
Gloynau Duw, gleiniau dail,
Teyrnaidd waith, twrn oedd wiw,
Tyrrau, troellau trilliw.
Llugyrn clyr, llygaid gwyr gwynt,
Lluniau lleuadau ydynt.
Dawn o chair, dioer na chyll,
Drychau o ffeiriau fferyll.

Gwn ras hir, gwen a roes hon,
Gerlant i'w phrydydd geirlon.
Hoff loew-gamp oedd ei phlygu,
A'i phleth o esgyll a phlu.
Rhodd serch meinferch i'w mwyn-fardd,
Rhoes Duw ar hon, restri hardd,
Bob gwaith a mwyn-wiaith manaur,
Bob lliw fal ar bebyll aur.


Nodiadau

[golygu]