Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Ysgyfarnog
← Y Llwyn Banadl | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Y Plu Paun → |
- YR YSGYFARNOG
A DDYCHRYNASAI FORFUDD YN Y LLWYN.
GLUST-HIR lwyd, gâr glas-derw lwyn,
Gefn-fraith, gyflym-daith, lamdwyn;
Gofuniad huaid yw hi,
Gwlm cydgerdd, gelyn coed-gi,
Gwrwraig a wnai ar glai glân
Gyhyr-waew i gi hwyr-wan.
Gefn-fain, gwta, gegin-fwyd
Gwn dynghedfen lawdr-wen lwyd ;
Henwraig ar gefn adain yd,
Anferth hir-glustiau ynfyd.
Esgud ei phas ar lasrew
Ysgwd o'i blaen, esgid blew ;
Ysgafn fryd, ac yd a gâr,
Os gad Duw esgud daear.
Hon a wnaeth yn nhraeth y rhyw
Fawr-gam a m'fi, ofer-gyw,—
Llunio ei gwâl yn Llwyn y Gog
Draw, y geinach drogennog,
Lle daethai dan gangau gwŷdd
Aur ei munud i'r manwydd.
Oni bai o'r cae a'r coed
Neidio o'r fudrog ynfyd-droed ;
A phan welodd, gwaeddodd gwen,
Y flewog gyw aflawen ;
Dychrynodd a luniodd lef,
Drwy fadrwydd hi droes adref.
A wnaeth draw yr annoeth dro,
Y ci mawr a'i cymero
Oddiar ei gwâl, ddioer gelen,
Heb rybudd er budd o'i ben.