Gwaith Dafydd ap Gwilym/Yr Ysbryd
← Y Cywydd diweddaf i Forfudd | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Marwnad Gruffydd Gryg → |
- YR YSBRYD[1]
DYW sulgwaith, dewis wylgamp,
Brynhawn hwyr, loew-lwyr lamp,
Fel yr oeddwn ar weddfyd
Mewn eglwys, baradwys bryd,
Gwiw ddeall, yn gweddiaw,
Ar Dduw nef, a'i urddau naw,
Clywn y ddaear yn barawd
Yn crynu, cyn gwenu gwawd;
Gofynnais, drud adlais dro
Byth i ddyn, beth oedd yno.
"Yn enw Mab yr Aberth,
A'r Glan Ysbryd, cyngyd certh,
Beth sydd isod yn godech
Yn y llawr dan gwr y llech?
Ai byw, ai marw garw ei gân,
Ai gŵr, a glywai'n geran?
Os dyn wyd dianawddal,
Drwg yw dy wedd, sylwedd sal.
Ysbryd marw, garw gawdd,
Bryd tybus, a'm hatebawdd.
"Aros yr wyf mewn oerni,
Yn ddrwg fy myd mewn cryd cri;
Afraid it, wr cyflwr cu,
Anwyfawl, fy nyfalu;
Bum ieuanc, ddidranc ddedryd,
A balch ymhob lle'n y byd;
A hynod yn y glod glau,
Filwr taith, fel 'rwyt tithau.
Gwelais im wallt, cwnsallt cu,
Gwinwyddawl serch gwineu-ddu,
A llygaid cain, burain bas
Amlwg, a golwg gwiwlas,
A thafawd mewn iaith ddifai,
A balchder mewn amser Mai;
Gwelais y ceid, gwiw-lwys cain,
Yr haf gusanu rhiain;
A rhodio mewn anrhydedd,
A gweled merched, a medd.
O'r diwedd gorfu im dewi,
Mawr fy most, marw fum i.
Treuliais fy ngwallt, fel alltud,
Dan y ddaear fyddar fud;
Darfu 'ngnawd, eurwawd oerwas,
Pregeth wyf i'r plwyf a'r plas;
Pregeth oedd piau'r gwaith hwn.
Pwy a wyddiad pwy oeddwn?
Darfu fy nhrwyn, a'm hwyneb,
Mud iawn wyf, ni'm edwyn neb;
Nid oes na llygad na dau;
Eithr yn ball, aeth yn byllau;
Nag aelgeth, nag un gulgamp;
Domlyd, briddlyd, luddlyd lamp;
Pan welir ymhlith cerrig
F' esgyrn yn gegyrn heb gig.
Taith i ddyn, tithau a ddaw
I'r ddaear i'th orddwyaw:
A Duw a ro, diau rhaid
Yno'th ddwyn, nef i'th enaid;
A gâr trugaredd heddyw,
I farw byd, lydlyd liw.