Gwaith Dewi Wnion/Adgofion Bywgraffyddol

Oddi ar Wicidestun
Llinellau Er Cof Am Dewi Wnion Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Anfoniad Y Golomen i Feirionydd

ADGOFION BYWGRAFFYDDOL


———————

GANWYD Dafydd Thomas, (Dewi Wnion) Mehefin 22ain 1800. Enw ei dad oedd Dafydd Tomas Rolant, yr hwn oedd yn enedigol o Lanymawddwy, ac yn saer wrth ei alwedigaeth. Y mae iddo lawer o berthynasau yn Mawddwy. Enw ei fam oedd Elizabeth, merch Huw Ap Ifan o'r Wenallt, Rhydymain.  Yr oedd ei dad yn hoff iawn o ganu, ac yn fedrus mewn dawnsio, yr hyn oedd gyffredin a chymeradwy y dyddiau hyny. Pan yn gweithio ei gelfyddyd yn Llanelltyd arferai fyned i "nosweithiau llawen" a gynnelid yn Rhydymain; ac yn y rhai hyny y, daeth i gydnabyddiaeth gyntaf ag Elizabeth. Ar ol priodi aethant i fyw i Ddoluwcheogryd, gerllaw Dolgellau, ac yno y buont yn preswylio hyd ddiwedd eu hoes. 

Dyn o daldra cyffredin oedd yr "Hen Dafydd Tomos", ond yr oedd ganddo gorff cadarn anarferol; ac yr oedd yn parhau yn gryf iawn hyd y diwedd. Pa faint bynag oedd ei hoftder at ddawnsio a difyrwch cyffelyb yn ei ieuenctyd nid yn hir y bu, ar ol priodi, cyn i gyfnewidiad amlwg gymeryd lle arno. Tua'r flwyddyn 1791, efe a ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nolgellau, a bu yn aelod proffesedig gyda hwy am 53 o flynyddoedd. Arferai eistedd, yn ei flynyddau olaf, bob amser bron yn y "pulpud bach;" a byddai yn hawdd gwybod ar Dafydd Tomos a fyddai "mynd" ar y bregeth. Eisteddai yn y dechrau yn dawel, a'i ddwy law ar ben ei ffon, a'i ben yn pwyso arnynt. Cyn hir, codai ei ben, a rhoddai bwysau ei ên ar ei ddwylaw. Yn mhen ychydig wedi hyny, codai ar ei draed, ei ffon o dan ei law, gan led-bwyso ar ochr yr eisteddle. Os byddai yr hwyl yn cynnyddu, safai ar ben y plocyn, ei gefn ar "ffrynt" y pulpud bach, a'i wyneb i fyny at y pregethwr, yn dystaw yfed llon'd ei enaid o ddyddanwch. Clywsom ef yn gweddio lawer gwaith, yn enwedig yn niwedd "seiat." Nid oedd ei ddawn mor wlithog a llawer o'i hen frodyr, ond yr oedd ei weddi bob amser, er yn fyr, yn sylweddol, a chryno iawn. Bu farw Hydref 22ain, 1844, yn 83 mlwydd oed.

Mewn nodiad yn y "Drysorfa" am Chwefror y flwyddyn ganlynol, ysgrifena y diweddar Mr. R.O. Rees, fel y canlyn — "peth mwyaf nodedig yn nodweddiad yr "hen ddysgybl hwn," yn yr hyn yr oedd yn esiampl brydferth i'w hoffi a'i hefelychu gan bob dysgybl proffesedig i Grist, oedd ei ddiwydrwydd a'i gysondeb yn ei ymarferiad â holl foddion cyhoeddus crefydd. Yr oedd yn byw yn nghylch milldir o Ddolgellau a bernir iddo, yn ystod y 53 mlynedd y bu yn aelod eglwysig, gerdded i'r dref, i foddion gras yn unig, fwy o yn agos i 3,000 o filldiroedd na phe buasai wedi amgylchu y ddaear! Ond er hyn oll, "gwas anfuddiol" oedd yn ei olwg ei hun. Pan oedd un o'i deulu yn son am ffyddlondeb anghyffredin gyda moddion gras i dawelu ei feddwl pryderus ychydig cyn ei ymadawiad meddai, "nid yw hyny ddim i mi erbyn hyn - rhaid cael rhyweth mwy na hyny i farw." Anhawdd fuasai cael esboniad ymarferol mwy tarawiadol ac effeithiol ar eiriau y Salmydd, yn Salm 42. 1 a 2, nag a gaem wrth edrych ar yr hen bererin ffyddlon hwn yn ei flynyddau diweddaf, pan oedd ei nerth wedi myned yn boen a blinder, yn ymlusgo wrth nerth ei ffon tua Thŷ ei Dduw, ei gefn yn crymu, ei draed yn trystio y ddaear, a'i gerddediad yn drwsgl ond yn egniol. Gellid dychymygu wrth edrych arno ei fod yn sibrwd yn barhaus yn ei feddwl, — "Sychedig yw fy enaid am Dduw, am y Duw byw; pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf ger bron Duw".

Ar yr olwg gyntaf, y mae cyfrifiad Mr. Rees o'r milldiroedd a gerddodd yr hen ŵr o'i dŷ i'r capel yn ymddangos braidd yn anhygoel; ond pan gofir fod ganddo lawn ddwy filldir a hanner i'w cerdded bob tro, rhwng myned a dychwelyd, ac y byddai yn bresenol ddwy-waith o leiaf ar y Sabbath, a dwy-waith yn ystod yr wythnos, yr oedd ei daith wythnosol i'r capel yn ddeng milldir neu bum cant a thriugain milldir mewn blwyddyn, neu saith mil ar hugain, pum cant, a thriugain milldir mewn 53 o flynyddau! Y mae yn dra sicr, gan hyny, nad oedd amcangyfrif Mr. Rees fymryn yn rhy uchel. 

Yn Noluwcheogryd, fel y crybwyllwyd, yr oedd yr hen bobl yn preswylio, ac yno, felly, y ganwyd Dewi; yn swn ffrydiau yr Wnion, oddiwrth yr hon y cymerodd efe ei enw barddol. Efe oedd y chweched o wyth o blant. Cafodd ei ddwyn i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad, (saer coed) ac ystyrid ef yn ei ddyddiau goreu, yn grefftwr medrus, fel y tystia llawer dodrefnyn o'i waith sydd eto ar gael. Adroddai yn fynych am dro lled ddigrifol a ddygwyddoddy pryd hyny. Yn mhlith ei gymydogion yr oedd llencyn a elwid "Dic William," yr hwn a gyfrifid yn un lled ddiniwaid; ond a fu wedi hyny am flynyddau yn dra defnyddiol fel blaenor y gân yn nghapel yr Annibynwyr yn y dref; efe a ymfudodd i'r America tua deugain mlynedd yn ol, ac a fu farw mewn ychydig fisoedd wedi cyrhaedd yno. Yr oedd Dewi wedi cael amryw o arfau newyddion, ac yn eu plith amryw gynion bychain hylaw at wneyd dodrefn. Byddai Dic yn myned yn fynych i'r gweithdy, ac yn edmygu y cynion newyddion yn fawr iawn. Ond yn mhen ychydig wythnosau fe gafodd Dewi allan fod y cynion yn diflanu o un i un, ac yr oedd yn naturiol i'r amheuaeth ddisgyn ar Dic. "Dic" ebai Dewi un diwrnod; "yr ydw i wedi colli, fy nghynion - welaist di mo'nynt yn un man." "Na welais i," ebe Dic, gan gochi fel twrci. " Wel," meddai Dewi, " os gelli di gael eu hanes nhw, a dyfod a nhw i mi mi gei aderyn du, byw, hefyd, gen'i am dy boen. "Mi gaf! " ebai Dic, "Cei yn siwr." Ac os oodd rhyw wendid mwy na'i gilydd yn perthyn i Dic y pryd hwnw, awydd am feddiannu aderyn du oedd hwnw. Dranoeth, wele Dic i'r gweithdy. "Mi ffeindiais i y cynion, Deio; dyma nhw; lle mae 'y 'neryn du i?" Cododd Dewi ei ben, ac fel y dygwyddodd, yr oedd aderyn du ar y cae yn y golwg, "Dacw fo, Dic meddai Dewi, "tyn dy gap yn barod, a cherdd yn ddystaw ato, mi dalio mewn mynyd." Ymaith a Dic yn ei led-ol i'r cae rhyngddo a'r aderyn, tarawodd ei gap drosto, a daliodd ef yn y fan, er syndod dirfawr i Dewi.  Yr oedd yr hen ŵr ei dad yn gweithio wrth y fainc gerllaw, ac wedi clywed yr holl ymddyddan, pan welodd yr aderyn wedi ei ddal, efe a gynhyrfodd yn ofnadwy. Dylid cofio fod llawer iawno son am "gonsurio" a "chonsuriaeth" yn y dyddiau hyny yn Nghymru. "Y mae'r Drwg mewn peth fel yma, Deio, y mae o hefyd; does bosibl dy fod di wedi cael gafael ar y llyfrau drwg yna; ac wedi gwerthu dy hun i'r Cythraul! Sut gebyst, oni b'ai hyny. y gwyddet ti y gallai yr hogyn ddal y deryn!" Aeth yn helynt sobr ar Dewi, a chafodd drafferth enbyd i argyhoeddi ei dad nad oedd a fynai y Gŵr Drwg, na chonsuriaeth, na dim o'r fath â'r amgylchiad; ac fod y cyd-ddygwyddiad yn gymaint gryndod iddo ef ag ydoedd i neb arall. 

Y mae yn anhawdd dyweyd pa pryd y tueddwyd ei feddwl gyntaf at farddoniaeth. Creda rhai y rhaid geni dyn yn fardd; ac eraill mai "dawn natur pob dyn ytyw" yr awen. Pa fodd bynag y mae yn wirionedd amlwg, os na enir dyn yn fardd, y rhaid iddo feddu galluoeddd naturiol a fyddont ffafriol i farddoni, cyn y cymer yn rhwydd i gyfeiriad yr awen. Gredwn fod doniau naturiol y llanc Dafydd yn ei wneyd yn hawdd i'r awen ei fabwysiadu, a phe gwnaethai ymdrech cyffredin, diau y gallasai fod yn eistedd yn mysg prif-feirdd blaenaf ei wlad. 

Yr oedd Huw ei frawd, hŷn nag ef, yn aros yn yr Amwythig, a cheisiai Rowland, brawd arall iddo, ieuengach nag ef, wneyd englyn i ofyn i Huw am anfon cyllell iddo ef o'r Amwythig, ac fel y canlyn y canai y brawd hwnw :- 

"Huwcyn bach, os wyt yn iach,
Anfon imi gyllech fach"; "Thâl hwna ddim byd," meddai Dafydd, "aros di dipyn bach, ac mi wnaf fi un gwell na hwna iti". Ac yn mhen ychydig dywedodd wrtho am anfon yr englyn canlynol i Huw:- 

"Am gyllell, hen gyfaill rwy'n gofyn, — finiog
Ofynaf gan Huwcyn, 
A eillio megys ellyn 
Yn sych deg ar swch dyn."

Yr oedd efe y pryd hwnw o bymtheg i ddeunaw oed, yr hyn a ddengys fod rhywbeth a fyno â phrydyddu pan yn ieuanc, a'i fod yn adnabod y gynghanedd yn lled foreu.

Ymunodd Chymdeithas y Cymreigyddion ar ei chychwyniad, neu yn bur fuan ar ol hyny. Yr oedd yn Nolgellau yr adeg hono luaws o feirdd a llenorion galluog ac egniol, megys Gwilym Cawrdaf, Llywelyn Idris, Meurig Ebrill, Ieuan Awst, Ioan Gwernen, Lewis Meirion, ac eraill, Byddai cyfarfodydd y Gymdeithas yn ddyddorol dros ben. Mynych y gwelid enw Dewi Wnion yn nglŷn â hanes y cyfarfodydd hyny.

Glywsom ef yn adrodd yn ddoniol am yr amser y cafodd ei urddo yn fardd with fraint a defod. Yn ol arferiad llawer o'r frawdoliaeth, gwisgai yntau ddiwrnod ei urddiad glos pen glin gyda byclau prydferth ar benau ei liniau. Y deuddegfed o Fai yn wastad fyddai y diwrnod urddo, hyny, debyg genym, o herwydd mai ar y diwrnod hwnw, yn y flwyddyn 1821, y cychwynasid y Gymdeithas yn Nolgellau. Cawrdaf yn unig, drwy ei fod yn Fardd Cadeiriol, a feddau'r hawl gyfreithlawn i urddo beirdd. Cerddai y Cadeirfardd drwy y dref gyda chleddyf yn ei law, a'r beirdd urddedig yn orymdaith drefnus ar ei ol Cymerai yr urddiad le yn Mhant-y-gareg-wen, oddiar y dref, lle y cynnelid yr orsedd. Dygid pobpeth yn mlaen yn weddaidd a defosiynol.

Pan oddeutu pump-ar-hugain oed, teimlai Dewi yn awyddus i fyned oddi cartref, er mwyn gweled ychwaneg o'r byd, ac ymberffeithio yn fwy yn ei gelfyddyd. Aeth i aros i Lanfyllin; cafodd waith gan un boneddwr hynawas a elwid Morris Bibby, Ysw. Yno y daeth yn gydnabyddus; â William Edwards, (Wil Ysgeifiog), yr hwn yntau oedd saer melinau. Yr oedd ganddo luaws o ystorion difyr mewn cysylltiad â'r bardd fraethbert hwn.  Yn Llanfyllyn, y pryd hwn, y cyfansoddodd efe y gân fechan dlos ar "Babell Morris Bibbi". 

Un tro, yn yr adeg hon, yr oedd ef a dau neu dri o'i gydweithwyr yn myned oddiwrth eu gwaith i weithio mewn lle arall a baich o arfau ar eu cefnau. Erbyn iddynt gyrhaedd Llanfyllin yr oedd yn gwlawio yn drwm. Troisant i mewn i ymochel i dafarndy adnabyddus iddynt; a thra yr oeddynt felly yn ymdwymo ac ymsychu o gwmpas y tân, daeth gŵr dieithr i mewn, wedi gwlychu yn lled ddwys, a golwg lled flinedig arno. Galwyd arno yn mlaen, a thynwyd ymddyddan âg ef. Cyn hir, fe ddeallwyd beth oedd ei neges ef - mai ar ei ffordd i Lanbrynmair yr oedd efe, at yr hen Gonsuriwr adnabyddus oedd yn byw yno, a elwid Doctor Roberts. Dyrnwr, mae yn ymddangos, ydoedd y dyn, yn gweithio mewn ffermdy ar derfyn Sir Ddinbych. Yr oedd yr holl ŷd a ddyrnid ganddo ef yn ystod y dydd yn cael ei gario ymaith bob nos, ac yr oedd pob ymdrech o'u heiddo i ddarganfod y lleidr wedi bod yn hollol ofer. Yr oedd ei feistr mewn penbleth blin, yn methu gwybod pa beth i'w wneyd, ac wedi ei anfon ef i ymgynghori ar Consuriwr er cael allan pwy ydoedd y lleidr, neu i roddi attaliad ar ei weithrediadau. Wrth ei holi, cafodd Dewi allan yn fuan pa fodd yr oedd pethau yn sefyll. Wedi rhoi awgrym i wr y tŷ, trodd at y dyeithrddyn, a dywedodd, "Ni raid i chwi ddim myned mor belled a Llanbryrimair, er cael eich neges, os nad oes gorfod arnoch: byddaf yn gwneyd tipyn yn y ffordd hono fy hun ambell waith; ac yr wyf yn sicr, eisoes, y gallaf roddi i chwi y wybodaeth ydych yn geisio"; a chan droi at ŵr y tŷ, ychwanegai - "Ymae y llyfrau yn ddiogel wrth law, onid ydynt." "Ydynt, siwr" ebe hwnw; "dyma yr agoriad i chwi; ni byddaf byth yn eu gadael heb glo yn eich absenoldeb, rhag i ryw un anghyfarwydd gael gafael arnynt, a chodi ysprydion, a methu eu darostwng hwy drachefn;" "Beth," meddai y dyeithrddyn, "â ydych chwi y "ŵr cyfarwydd?" "O! ydyw siwr meddai cymdeithion Dewi, "yn un 'cyfarwydd iawn,' ac yn dra enwog yn y wlad ucha yna." "Wel, ni waeth i mi y naill ŵr cyfarwydd mwy na'r llall," ebe y dyn;  "mewn pa faint o amser y byddwch chwi yn barod?" "Mewn hanner awr, neu lai", ebe Dewi ; "ac mi a âf yn awr i roddi y llyfrau mewn trefn." Yn mhen ennyd, galwyd y dyn i'r parlwr. Yr oedd shutters y ffenestr wedi eu cau; dwy ganwyll fawr oleuedig ar y bwrdd; tri neu bedwar o lyfrau mawr eu trefnu yn y fath fodd fel nas gallasai y dyn,'os ydoedd yn medru darllen, gael un awgrym beth oeddynt. "Wel," ebe Dewi," yr wyf yn gael allan fod eich ystori yn wir; y mae yr ŷd yn cael ei ladrata; ac y mae y lleidr yn un lled ystrywgar hefyd, ac wedi llwyddo i gelu ei hun yn fedrus iawn; ond mi a ddywedaf i chwi pa fath un ydyw" gan edrych i un o'r llyfrau, "y mae ganddo glos pen glin o gorduroy, a hosanau bach o'r un defnydd; cot lwyd lac, a llogellau mawr iawn o'r tu mewn iddi. Y mae ganddo wallt du bras, ac un cydyn yn troi ar ei dalcen; llygaid duon, ac un ychydig yn gam; trwyn hir; dannedd lled fawr, ac un yn taflu allan ychydig, ac" - Ond gyda hyny, dyna'r dyn yn ymaflyd yn y bwrdd a'i ddwy law, nes oedd hwnw a'r cyfan oedd arno yn crynu dros yr ystafell. Cododd Dewi ei ben, edrychodd yn myw llygad y dyn, yr hwn oedd mor wyned a'r galchen--"beth! ond chwi yw y lleidr!, meddai. Syrthiodd y dyn ar ei liniau, gan erfyn er mwyn pob peth da yn y nef a'r ddaear; am i Dewi gadw y peth yn ddirgel, a pheidio ei amlygu i neb, er mwyn ei amgylchiadau ef a'i deulu. Wedi hir ymbil, boddlonodd Dewi i hyny, ar yr ammod iddo fyned adref, a hysbysu ei feistr fod y gŵr cyfarwydd yn dyweyd y byddai i'r ŷd gael ei ddwyn yn ol gan y lleidr mor gyfrinachol ag y cymerwyd ef ymaith, ac fod y meistr i anfon hysbysrwydd i ŵr y dafarn pan y byddai yr ŷd wedi ei ddychwelyd; ac yna na chlywid dim mwy am yr helynt. Felly y bu. Aeth y dyn adref dipyn yn sobrach, ai logell ychydig yn wagach, gan lwyr benderfynu mai "gorau byw yn onest" o hyny allan.  Bu Dewi yn aros am, gryn amser y pryd hyn yn nghymydogaethau yr Amwythig, Llanfyllin, a Llanerfyl. Yn y lle olaf, daeth yn gydnabyddus â merch ieuanc o'r enw Rachel Evans; aeth yn ymgyfeillach rhyngddynt; ac yr oedd y garwriaeth, yn ol pob tebyg, ar droi allan yn briodas. Ond, fel y gwneir yn fynych, dyryswyd cynlluniau serch; syrthiodd y blodeuyn prydferth yn yr angau, a gadawyd y llanc cariadlawn i wylo am ei Rahel. Hyn a achlysurodd iddo gyfansoddi y pennillon serchwylofus a geir yn y llyfr hwn dan y penawd "Mynwent Erfyl, neu Hiraeth y Bardd ar Fedd ei gariad."

  Pan yn aros yn Sir Drefaldwyn, deuai adref yn awr ac eilwaith i ymweled â'i dad, ac i'w gynnorthwyo pan fyddai gan yr hen ŵr gryn lawer o waith ar ei law. Bychan o beth yn ei olwg y pryd hwnw oedd cerdded, â beichyn o arfau ar ei ysgwydd, o Faldwyn dros y Bylchoedd i Ddolgellau. Yr oedd yn ddyn ieuanc iach, bywiog, talgryf, glandeg yr olwg, ac yn meddu ar gorff llunaidd ac ystwyth. 

Adroddai wrthym ei fod yn myned un tro dros Fwlchyfedwen yn bur hwyr ar noswaith oleuleuad; ac fel y gwyr pawb fu rywbryd y ffordd hono, y mae hen loches fynyddig y Gwylliaid Cochion gynt yn lle brawchus iawn i deithiwr unig, yn enwedig yn y nos. Yn nghanol mynyddigrwydd anghysbell hwnw, daeth dyn i'w gyfarfod o faintioli lled fawr, ac ymddangosiad go annymunol, a gofynodd pa faint o'r gloch ydoedd. Edrychodd Dewi Ar ei oriadur, ac atebodd y cwestiwn. Yna gorchymynoddy dyeithrddyn iddo roddi ei oriadur i fyny iddo ef. Dododd y dyn ieuanc gwrol ei becyn yn bwyllus ar lawr, a chyn pen ychydig o eiliadau yr oedd y ffon, a'i phen meinaf yn llaw ein harwr grymus, wedi gadael ei dylanwad syfrdanol ar benglog yr ysbeiliwr i'r fath raddau nes y syrthiodd yn hanner marw ar y llawr. Gan dybied y gallai fod yno un arall heb fod yn mhell, prysurodd y teithiwr gonest i'w ffordd, gan adael yr ymosodydd haerllug ar lawr i fwynhau y llonyddwch a dderbyniasai oddiwrth y ffon, ac i godi pan deimlai ei hunan yn gyfaddas. Yn lled fuan, clywai Dewi drwst traed rhywrai yn dyfod o'i ol yn frysiog, aeth yn y fan dros y gwrych, a phrysurodd dau ddyn heibio yn ymlaen ar hyd y ffordd, un o'r rhai, fel y tybiai ef, oedd yr hwn a loriwyd. Ond anturiodd eilwaith i'r ffordd, a cherddodd i'w daith ac ni welodd ddim oddiwrthynt mwyach.

Yn y flwyddyn 1831 aeth i aros i Lynlleifiad. Ymunodd yno drachefn â Chymdeithas y Cymreigyddion, yr hon â ymgyfarfyddai yn Heol-y-Dymhestl. Ymgydnabyddodd felly â llawer o feirdd a llenorion, megys Pedr Fardd, Tomas Gwynedd, Ioan Powys, ac eraill. Yn y dref hono y cyfansoddodd y pennillion adnabyddus ar "Anfoniad y Golomen". Yr oedd efe a'i gyfaill John Evans wedi myned am dro un boreu i Knowsley Park, gerllaw palasdy Iarll Derby. Yno y daethant ar draws nifer o blant ieuainc oeddynt wedi dyfod i Liverpool i'r ysgol. Yr oedd ganddynt golomen gyda hwy, ac wedi sicrhau nodyn yn ei chilfin i hysbysu eu rhieni. eu bod wedi cyrhaedd yno yn ddiogel, gollyngasant hi. Esgynai hithau, gan ymdroelli mewn cylch neillduol, nes cyrhaedd uchder penodol, ac yna ymaith â hi yn unionsyth yn nghyfeiriad Cymru. "Dyna hi, Jack," ebe Dewi, "yn syth i Feirion." Ac wedi dychwelyd i'w lletty y prydnawn hwnw, dechreuodd Dewi ganu, a John Evans ysgrifenu, y gân naturiol hono. 

Wedi aros am oddeutu pum mlynedd yn Llynlleifiad, dychwelodd i'w hen wlad enedigol, i beidio ymadael mwy. Yn fuan wedi hyny, sefydiwyd y Gymdeithas Ddirwestol yn Nolgellau. Ei hysgrifenydd cyntaf hi ydoedd Mr. John Evans, Joiner; mab hynaf y diweddar Dafydd a Chatherine Jones o'r Pobty, a brawd i'r diweddar Mr. David Jones, Llyfr-rwymydd, a Mr. Humphrey Jones, Tanybryn yr hwn yn unig o'r teulu sydd yn aros hyd yr awr hon. Yr oedd John ar y pryd newydd ymbriodi â Margaret, chwaer i Dewi. Yr oedd awen barod y naill, a llais mwyn a melus-ber y llall, yn naturiol yn peri cyfeillgarwch mynwesol rhyngddynt. Oes fer, ond tra defnyddiol, a gafodd John Evans, ac fe geir Englyn Beddargraffyddol gyfansoddodd Dewi ar y pryd yn y gyfrol hon. Yr oedd yn naturiol i zel a gweithgarwch ei gyfaill ddylanwadu yn gryf ar Dewi, ac ni a gawn ei fod am flynyddau lawer ar ol hyn yn Ddirwestwr zelog, fel y dengys y ddau bennill a gyfansoddodd ef yn ngrym y gwres dirwestol, a'i sen lem i'w hen gyfaill Meurig Ebrill.

Yn yr adeg hon hefyd, ymunodd Dewi a'r Methodistiaid, gyda'r rhai y magwyd ef, ac yr arferai wrandaw yn wastadol, a bu yn aelod zelog yn Salem am flynyddau, ac yn athraw gweithgar yn yr Ysgol Sabbathol. Cyfrifid dosbarth Dewi Wnion, am hiramser, yn un o brif ddosbarthiadau yr Ysgol. Yr oedd yn arferiad y pryd hwnw, ac y mae yn parhau hyd yn hyn, i gynnal Cyfarfod Genhadol ar ol y bregeth, yr ail nos Sabbath yn y mis, ac enwid dau neu ychwaneg o'r athrawon i areithio yn mhob cyfarfod. Yr ydym yn cofio yn dda fod Dewi yn areithio un nos Sabbath, yn yr adeg yr hwylioddy Cenhadwr cyntaf perthynol i Gyrmdeithas Genhadol y Methodistiaid i Fryniau Cassia, ac yn ystod ei araeth, adroddai ddarnau helaeth o Awdl enwog Dewi Wyn ar Elusengarwch — pob darn, yn wir, ag yr oedd rhyw gyfeiriad ynddo at y Bibl, y Genhadaeth, neu yr India. Rhwng parabliad clir Dewi, ei ynganiad perffaith o'r cyngharieddion, a chydymdeimlad gwresog y gwrandawyr, ni chlywsom y fath hwyl yn cydfyned ag adroddiad o'r hen awdl odidog, na chynt na chwedyn, ag a fu y noson neillduol hono.

Yn y flwyddyn 1838, ymbriododd a Sarah Jones, Llwynygrug, Dinas Mawddwy, yr hon oedd ar y pryd yn gwasanaethu yn y Llwyn, Dolgellau, gyda Thomas Hartley, Ysw. Dichon mai nid annyddorol i lawer fydd yr englynion canlynol a wnaed ar yr amgylchiad gan y diweddar Meurig ldris :—

MEWN hedd mae Gwynedd yn gwenu — heddyw
Yn hyddoeth a mwyngu,
A'r holl Feirddion ceinion cu
Mewn cynnydd yma'n canu.

O herwydd mai dydd dedwyddawl, — yw hwn,
Mae'n hynod ryfeddawl,
Bydd priodas urddasawl
Dewi Wnion hylon hawl.

Dewi ydyw bri ein bro, — Bardd enwog.
A'i bêr ddoniau'n seinio,
A'i awen lon fwynlon fo
O foroedd yn llifeirio.

Dewi a Sarah, dau siriawl — i fyw
Ac i fod yn unawl,
Dau'r un fryd mewn hyfryd hawl
Ydynt yn dra hynodawl.

Eu dyddiau fo 'n ddedwyddol, — a chynnydd
Gwych enwog beunyddiol,
I oesi yn urddasol,
Ddau wiwfad, a'u hâd o'u hol.

Ffyniant a llwydd hoff union — i'w dilyn
Hyd elawr yn ffyddlon,
A chael addas ras yr ION,
A doethwych hael fendithion.


Ar ol priodi aethant i fyw i dy yn ymyl y dref a elwid Llety Dewi, lle yr arosasant am dros ddeng-mlynedd-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn, ymsefydlodd yntau fel goruchwyliwr ar ystad y Llwyn a bu yn yr oruchwyliaeth hono hyd ddiwedd ei oes, a hyny gyda pharch a chymeradwyaeth neillduol yn ngolwg y naill a'r ol y llall o deulu anrhydeddus y Llwyn, ac yn enwedig y foneddiges a'r boneddwr presenol, Miss Hartley, a Thomas Humphrey Williams, Ysw.

Bu Dewi yn aelod o'r Gymdeithas Gyfeiligar Gynnorthwyol a gynnelid yn yr Angel, bron o'i chychwyniad. Efe oedd "Bardd" y Gymdeithas; a bu hefyd am bedair blynedd ar bymtheg ol-yn-ol yn cael ei ethol yn Llywydd ynddi, hyd nes iddo fethu gan lesgedd i barhau; ac bu hefyd yn un o'i Hymddiriedolwyr hyd derfyn ei oes, yr hyn a ddengys fod gan ei gyd-aelodau gryn ymddiried ynddo.

Yn mis Mawrth y flwyddyn 1879, cafodd anwyd trwm, a bu yn sâl iawn am fisoedd ac yn ol pob ymddangosiad yn agos i angau. Ond er syndod i lawer gwellhaodd drachefn. Ar ei adferiad canodd un o'i gyfeillion, fu yn gweini arno yn ei glefyd, yr englynion â ganlyn:-

Diolch am weled Dewi; — eto'n iach
Tan ei hoff benwyni,
A'i osgedd mor wisgi — ar ol hirnos,
O ryw ddwys wylnos mewn prudd selni.

Ammheu y buom y bywiai — am hir dro,
Mor drist yr edrychai,
Ei bruddaf wyneb roddai — arwyddion
O boen y galon — buan y gwelwai.

Ar bwys ei och a'i hir besychiad — dwfn,
Athrist oedd ein casgliad;
Ofnem fod ei ymddatodiad — gerbron,
Ein dewraf Wnion ar derfyniad.


Gwelodd,er cystal oedd gwyliad — dwylaw
Dilesg cydymdeimlad,
Aml nos ddwys ddiorphwysiad,
A maith ddydd heb esmwythad.

Tywyll oedd gweled Dewi — heb wên fwyn,
Tan boen fawr yn tewi;
Mewn nos yr oeddym ni — gan y gofid
Dirfawr y gellid ar fyr ei golli.

Ond cliriodd y nen, a daeth gwenau — haul
Eilwaith ar ein gruddiau;
Mae Wnion yn llon wellhau — o'i nychlyd
ddu afiechyd — diangodd o'i fachau.

Awel Mawrth fu lem wrtho — a chwerw iawn
Fu dechreu haf iddo;
Ond rho'i Awst ei nawdd trosto — a'i bryd gwyn,
A chyn hir wed'yn cychwynai rodio.

Yn well well aed Dewi bellach — yn rhydd
O'r hen ddolur mwyach;
Difyr nwyd ei fron iach — yn ei ddydd hen
A thân ei awen a weithio'n hoywach,

Caed yrfa deg hyd derfyn — ei einios,
Fel prydnawn hirfelyn;
A chaed oes iach wed'yn — yn y lle pur
Nad oes un dolur dwys yn dilyn

Er nas adfeddianodd ei gryfder yn hollol fel o'r blaen ar ol y fath gystudd trwm, eto mwynhaodd iechyd lled dda yn y blynyddoedd dilynol. Ond gwanhaodd eilwaith yn niwedd y flwyddyn 1883, ac er pob gofal a gwasanaeth angenrheidiol parhaodd i waethygu. Bu farw Ghwefror 5ed, 1884, yn ei 84 mlwydd oed. Claddwyd ef yn y fynwent tu cefn i gapel Salem, Dolgellau.

Cafodd oes hir, a gellir ychwanegu, gysurus hefyd. Profodd "ymgeledd cymhwys" yn ei brïod ofalus, Mrs. Thomas, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw unig a galarus. Symudasent er's dros bymtheg mlynedd o Letty Dewi i le bychan yn ymyl palas y Llwyn. Buont fyw gyda'u gilydd dros bum-mlynedd-a-deugain.

Yr oedd Dafydd Thomas yn gymydog tawel, o dymher hynaws a charedig, ac yn-ddifyr iawn bob amser yn ei gyfeillach. Yr oedd yn fawr yn ngolwg ei feistr, ac yn hoff gan bawb o'r tenantiaid. Darllenoedd lawer ar hyd ei oes; a meddai ar gof rhagorol. Derbyniai y "Faner" yn rheolaidd, a deuai y "Dydd" a'r "Goleuad" iddo bob wythnos. Cymerai gryn ddyddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac yn holl symudiau cymdeithasol a chrefyddol yr oes. Heddwch i'w lwch.


Ymae y geiriau canlynol wedi eu cerfio ar Gareg Fedd y Bardd:

ER COF SERCHOG

AM

DAVID THOMAS

(Dewi Wnion)

BU FARW

Chwefror 5ed, 1884

YN 84 OED

—•—

Adwaenid DEWI WNION — yn ei ddydd
Fel bardd hoff pereiddlon
Bydd fyw yn hŵy yn ei Englynion
Na geiriau cu y Gareg hon

JJ