Gwaith Dewi Wnion/Llinellau Er Cof Am Dewi Wnion

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Dewi Wnion/Cyflwyniad Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Adgofion Bywgraffyddol

LLINELLAU ER COF AM DEWI WNION

HAUL denawl Dewi Wnion, — a giliodd
O’r golwg i’r eigion ;
Duodd gwawr dydd y gwron,
Aeth i’r llawr ein hathraw llon.

Angeu du, mor ddreng y daeth, — a’i golyn
Dirgelaidd, ysywaeth,
A achosodd, soddodd ’i saeth -
Brad elyn i’n brawdoliaeth.

Iaith awenawg wrth anian, — a feddai,
Mor fuddiol ei gyngan;
Ah! Cawr y dydd, creai dân,
I’w ollwng yn fflam allan.

Pren gwrol purion a gurwyd, — ei ddail
Oedd heirdd oll a gwympwyd ;
Ac uthrol geingciau ’sgythrwyd,
A’i fôn llon aeth i fan llwyd.

Byw ydoedd am wybodaeth, — ei feddwl
Fyddai mewn dysgeidiaeth,
Yn rhodio maes efrydiaeth,—
O fewn dim yn safon daeth.

Anian soddi i fôr hanesyddiaeth,
A’i ddoniau hylon oedd ynddo’n helaeth,
I godi’r lleni, er canfod lluniaeth,
Fyddai ei orchest, i foddio’i archwaeth;
Hel i fewn ryw fuddiol faeth, — y byddai
O’r hyn a fyw garai yn fagwraeth.


R. Jones.