Gwaith Dewi Wnion/Anerchiad I Eisteddfod Merion Calan 1880

Oddi ar Wicidestun
Englynion (4) Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Dau englyn

ANERCHIAD I EISTEDDFOD MERION

CALAN, 1880.


HENAINT sydd i'm dihoeni, — a rhyfedd
Mae'n rhifo fy mlwyddi;
Y du fedd cyn deuaf fi
I anerch ar ol eleni.
 
E fudwyd fy nghyfoedion — i'w beddau,
Rai buddiol awduron;
Erys eu gwaith yr awrhon
I wres haul y wâr oes hon.
 
Er y gwall o'u hir golli, — a bywiol
Feib awen yn tewi,
Cedyrn, er hyn, sy'n codi
Mewn brwd sel i'w harddel hi.

Urddas ddaw'n fwy i feirddion, — a hefyd
Ddihafal gerddorion;
Trwy'r hyglod Eisteddfod hon
Mawrwych fydd enw Meirion.

Am aros nid yw Meirion — ar ol
Yr un o'i chym'dogion;
Ac hefyd, hael cyfyd hon
Fwyn addas wir foneddion.

Gwelwch yr holl ysgolion — a godir,
Rai gwiwdeg, yn Meirion;
Chwanegir cyn hir yn hon
Golegawl ysgolheigion.


Yn ddidwyll mae'r celfyddydau — megys
Am agor eu dorau;
Dedwyddawl gwel'd y dyddiau
Megys yn ymagoshau.

Y mellt sy bron ymwylltio — a'n cyson
Negeswyr diflino;
Cywrain y maent yn cario
Yn frwd helyntion y fro.

Ar fyr daw'r llythyr i'r llaw — o bellder
Heb balldod yn ddystaw,
Trwy dir a mör didor y daw, — y fellten
A'i gloyw aden sydd yn ei gludaw.
 
Yn deg emau digymysg — y byddoch
Rai buddiol, a hyddysg;
Llenyddion yn llawn addysg,
Rhwydd eu dawn yn rhoddi dysg.
 
Egyr yr holl enwogion — clau, astud,
Eu clustiau a'u calon
Ac wedi hawdd coda hon
Fagad o bendefigion.
 
Blwyddyn dda erfyniaf fi,
Ddiachwyn, fyddo ichwi
Byw'n syber heb brudd-der bron,
A dyna ddywed — WNION.