Gwaith Dewi Wnion/Dau englyn

Oddi ar Wicidestun
Anerchiad I Eisteddfod Merion Calan 1880 Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Ol-Nodiad

————


GRIFFITH JONES.


Cyfansoddwyd yr Englyn canlynol ar ol edrych ar gorff marw Griffth Jones, plentyn Evan ac Elizabeth Jones, Blue Lion Inn, Dolgellau, nos Lun, Rhagfyr 20fed, 1880.


 
NI welwyd ei anwylach, — o'i ddu ing
Fe ddiangodd yn holliach
I glaerwen wlad ddysgleiriach,
O'i ingol boen, yn angel bach!


————


CYFARCHIAD


I T. H. WILLIAMS, YSW., Llwyn, ar ddiwrnod pen ei flwydd, Gorphenaf 30, 1881.


 
Er degwch yn bump a deugain — o oedran
Mae'n edrych yn firain;
Caed fyw 'n hir, gywir, gain,
Ragor na phedwar ugain.