Gwaith Dewi Wnion/ Ol-Nodiad

Oddi ar Wicidestun
Dau englyn Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

OL-NODIAD.

Y MAE yn dra thebyg fod DEWI WNION wedi cyfansoddi llawer o Englynion, ac fe allai rai Caneuon hefyd, nad ydynt yn y llyfr hwn; ond yr ydym wedi argraffu yr oll y llwyddwyd i ddyfod o hyd iddynt, Yr oedd ei hoff gyfaill a'i frawd-yn-nghyfraith, y diweddar Mr. John Evans, wedi ysgrifenu, tua dechreu y flwyddyn 1837, mewn un llyfr helaeth, bob llinell a gyfansoddodd Dewi hyd y pryd hyny, mor bell ag y gallent ill dau eu cofio. Fe fenthycwyd y llyfr hwnw yn mhen ennyd wedi hyny i ŵr ieuanc talentog arall, un o " blant Dolgellau," sef y diweddar Mr. Robert Roberts, a fu am flynyddoodd yn Arolygydd y North & South Wales Bank yn Nghaergybi, ac wedi hyny yn Nghroesoswallt; ac yn y dref ddiweddaf yr oedd efe pan y bu farw. Yr oedd Mr. Roberts yn gwybod fod y llyfr yn ei feddiant, ac wedi addaw, ychydig cyn ei farwolaeth, ei ddychwelyd i Dewi. Ond yn anffodus, ni chafodd efe hamdden i wneyd hyny; daeth, "y diwedd" i'w gyfarfod ef, megys llawer eraill, yn nghynt nag y meddyliodd. Yr oedd ganddo lyfrgell eang a thra amrywiaethol, ona fe werthwyd y cyfan ar auction, ar ol ei farwolaeth, ac y mae yn dra thebyg fod yr ysgriflyfr hwnw wedi syrthio i ddwylaw rhywun yn Nghroesoswallt, neu y gymydogaeth, nad oedd, fe allai, yn alluog i'w werthfawrogi. Pa fodd bynag, methwyd, er pob ymholiad, a chael dim o'i hanes.

Yn ystod ei flynyddau olaf perswadiwyd Dewi gan nifer o'i gyfeillion, i ymdrechu adgofio cymaint ag a allai o'r cyfansodiadau oedd yn y llyfr hwnw, yn gystal a rhai diweddarach; ac efe a lwyddodd o dro i Aro i adgofio cryn nifer o honynt. Ond yr oedd yn ymwybodol ei fod wedi cyfansoddi llawer o Englynion nas gallai mewn un modd eu hadgofio. Os dygwydd i rai o ddarllenwyr y llyfr hwn ddyfod o hyd i ryw Cân neu Englyn o'i waith nad yw yn argraffedig ynddo, bydd yr argraffydd yn ddiolchgar iawn i bawb a anfonant gopi iddo.



————————————————————


OWEN REES, ARGRAFFYDD, DOLGELLAU


————————————————————