Gwaith Dewi Wnion/Anerchiad i'r Gwladgarwr

Oddi ar Wicidestun
Y Gwellaif Gwaith Dewi Wnion

gan Dewi Wnion

Englynion (3)

ANERCHIAD I'R "GWLADGARWR"

ATHRAW anwyl llyth'renawg, — a hyddysg
Gyhoeddwr godidawg,
Mêl i fy min, gwin o gawg
GEIRIONYDD, y gwr enwawg.

Y tlawd a fydd ddysgawdwr, — o edrych
Ar odrau'r Gwladgarwr;
Gwythi gwin yw gwaith y gŵr
Yn lloni ei ddarllenwr.

E luniwyd ei ddalenau — hirddysg
A heirddion lyth'renau;
A llawn oll yw'r llinellau
O wir i gyd, heb air gau.

Câr i'w wlad bob cywir lwydd — ar eurwych
Ororau gonestrwydd;
Ni theifl ryw weniaith (aflwydd
O bethau gwael) byth i'w gŵydd. . . . 1834,