Gwaith Dewi Wyn/Molawd Ynys Prydain II
← Molawd Ynys Prydain I | Gwaith Dewi Wyn gan Dafydd Owen (Dewi Wyn) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Molawd Ynys Prydain III → |
II. HEN BRYDAIN.
Da i hon oedd dyfodiad Hu—Gadarn,
A'i giwdawd addwyngu,
Mewn hedd i gyfaneddu,
Ddidrais lwyth, a dirus lu.
Ffraw bennaeth o Ddeffrobani,—neud dewr
Anturiodd y weilgi!
Chwimwth a'i leng uwch maith li
Chwai 'r hwyliodd uwch yr heli.
Yr helaeth dir rheolynt,—gwyr moesawl
A grymusion oeddynt,
Ac undeb cadarn arnynt,
Unawl gorff er Dyfnwal gynt.
Y gwyr da oll coffaer,
Wych saint, tra llewyrcha ser;
O iawn barch eu henwau byth
Yn ddilyth tragwyddoler.
Eu cais gynt, dda hynt, oedd hau
Had addysg yn eu dyddiau.
Celfydd er Coel a fu ddoeth:
Syw er Morddal, saer mawr-ddoeth
Yn annatodol y gwnaeth ein teidiau
Ar y tiredd y cestyll a'r tyrau;
Do'r magwyrydd a'r uchel-drem gaerau,
Hynod oludawg hen adeiladau.
Cywrain gerfiaw âg eirf minia wg,
Tyrau a llysedd tra lliosawg;
Gwneyd ein goror gannaid yn gaerawg,
Nes bai 'n eglur ynys binaglawg.
Ein hynafiaid o'u hanian wiw—faith,
Hynod eu craffter i wneyd crefft waith,
Elwig, wyrenig, loew gywreinwaith;
Ac ni welir ail eu cynilwaith.
Calondid uwch cul wendon—câs Madawg
Symudodd yn ddigllon,
I faith Americ o Fôn
Mordwyodd uwch mŷr duon.
Gorhoff, cyn taid Cristopher,
Hwylies hynt wrth haul a sêr,
Uniongyrch dewrgyrch deirgwaith
I for yr Atlantic faith.
Ail Nefydd hylaw nofiwr—ar wyneb
Yr ewynog ddyfndwr;
Rhwygai 'r donn ar gaerau dŵr
Cawr o fonedd Corfinwr.
Hoew Brydeiniaid ewybr eu doniau,
Hoffi pêr fiwsig, a phob prif foesau;
Golygus giwdawd gloew eu gwisgiadau;
Hen wyr diarchar yn eu haurdorchau,
A'u gleiniog droiog fodrwyau—mawrion
Ein tir, a'n Derwyddon tra hynod raddau.
E fu Drywon à gleiniog fodrwyau,
Gwyr dysgedig ag euraid wisgiadau;
Bore astudient, wiw barhaus deidiau,
Yn y toreithiog anturiaethau;
Gwiw eu hurddedig gyrhaeddiadau:
Deall p'le y nadir, dull planedau;
Am sêr gwibiedig mwys ragwybodau;
Lled ragwelediad o'r holl dreigliadau.
Trwy ddeall llachar treiddiai Llechau
Drwy fro anian a'i dirfawr rinau;
Iddo ymrithiodd amrywiaethau
Meirw a bywion amryw bauau,
A phraw' didwyll amgyffrediadau
I'w law fanwl,—teimlo 'r elfennau,
Gwalchmai, Rhiwallon, hyfedr ddoniau
Twymn y trwythent mewn naturiaethau.
A chlau wybodau i'w ben—o leiniawg
Olwynion yr wybren,
Gwyn ab Nudd gwynebai nen,
A'i fyfyr drwy'r ffurfafen.
Hen Idris a fu 'n edrych—ar wyneb
Serenawg yr entrych;
Deallai drefn, dull, a drych,
Y lluon glân eu llewych.
Arwyddion lladmeryddiaeth—adwaenid
Gan eu doniau helaeth;
Eu dawn uwch ben i nen aeth,
Doniau goruwch dewiniaeth.
Gosod deddfau, cyfreithiau i Frython,
Yn wiw wrth reol a wnai 'r athrawon;
Ar goedd eu brenhinoedd barnu 'n union,
Gynt mor enwog oeddynt yn Mryn Gwyddon;
Ar orsedd oleuwedd lon—areithio:
Ow in' droi heibio un o'u diarhebion.
Caboli 'r iaith â'u cwbl rîn,
Helaethu a harddu hon;
Diod bêr, a mêr, i'r mîn,
Loew gref frwd ni lygra fron.
E fu yn harddu 'r fan hon
Ei thrioedd a'i hathrawon;
Adwaenynt, profynt bob rhan
O rinwedd amryw anian.
Eilyddion gorfoleddawl,
A chlau dafodau o fawl;
Iawn wyddynt awenyddiaeth
Cadeirfeirdd a phrif—feirdd ffraeth;
Pur o ddysg Perri a ddaeth—cyflawnddysg
Gwyrth addysg areithyddiaeth.
Daeth i'n mysg dda fawrddysg y ddau Ferddin,
Yn gynarawl, a'r enwog Aneurin,
Dillyn a didwyll yn ei Ododin:
Gwawdiaith eiliasant gyda Thaliesin;
A'u miwail geirdd mal y gwîn—Dafydd mwy
Enwer, a Gronwy yn un o'r grawnwin.
Drwy ddawn ffroch adroddion ffraeth,
Er dydd Catwg ddiwg ddoeth;
O ddysg hen Gambold e ddaeth
Lythyreg gall, lithrig, goeth.
O ddilwgr grefyddolion,—cêd iawnddoeth,
Caed ynddi enwogion;
Llawn o addysg llenyddion,
Tra hen saint yr ynys hon.
Gwlad rydd i grefydd y Grog,—er Lleirwg,
Wr llariaidd eneiniog;
Yn rhestr y saint, braint ein bro,
Ceir enwau gwyr coronog.
Tros eu ffydd gref goddefynt
Lid creulon gwyr geirwon gynt:
Blin ormes Dioclesian,
Chwerw echrys, cai 'r ynys ran;
Rhufeinwr hagr hyf ennyd
Arteithiai, dirboenai'r byd.
Baeddwyd, Och! Gan Babyddion—yn Is Coed
Ddysgedig enwogion;
Diodde 'n brudd eirf llofruddion,
Santaidd weis hwynt i Dduw Iôn.
Ond llu o Gymru a gaid
Yn ddilwgr eon ddeiliaid:
Tarawsant gâd y treiswyr,
Bob gradd, gan eu lladd yn llwyr.
Er cael y gwawl a'r gair coeth
I'w gafael, nefawl gyfoeth,
Nifwl dros ein henafiaid,
Nos erchell ar gell a gaid.
D'ai chwil—lŷs diochelyd,
Anghenfil, bwystfil y byd,
Dan yr orthrom freichdrom fryd—erlidiawg
Ferhoedlawg Fari Waedlyd.
Dau Iago 'n llarpio mewn llid;
Dau Siarlys fu'n dwys erlid,
Cymylau ar gyrrau 'r gwawl,
Ar guddio 'r Haul tragwyddawl.
Dyma ryddid am roddi—i'r ynys
Wawr anwyl goleuni
Loer newidiawl wen;—wedi
Da lan haul i'w dilyn hi.
Darfu, Prydain gain, dy gur,—dadebra,
Dy wybren sydd eglur;
Gwel rosyn goleu 'r asur,
Nefawl fflam yn ufel fflur.
Duw a gyfododd, diau gofiadon,
In', y Diwygwyr, ei weinidogion,
Wrth air Ridley a'i wir athrawiaeth radlon,
Cranmer eilwaith, y crynnai marwolion:
Hwy arddent, arloesent, wrawl weision,
Ein bro oer anwyl, hen bererinion:
I'r fro bu 'r ysgall, a'r efrau breisgion,
Y ceir gwinllannoedd caerog yn llawnion.
Y lle unwaith bu dylluanod,
Wele, mae yno golomennod;
Yn lle rheibiawg ryfelawg filod,
Didwyll eglwys, diadell wiwglod,
Dyroes ergydion, dirus rwygiadau,
Yn yr uffernawl, angiriawl gaerau,
Drwy Harri frenin, â'i lîn o lwynau
Syr Owain Tudur, oeswr o'n teidiau.
Trwy'r deyrnas, o ras, wiw rodd,
Rhyddid wridawg, hardd droediodd;
Efengyl, anwyl, union,
Yn llaw, yn neheulaw hon:
Drwy William, da reolaeth,
I'r ynys dilys y daeth.
Gwydden frigawg, nerthawg nodd,
Mawladwy yr ymledodd
O'n bro dros lyrau yn brid,
Cyrhaeddodd ceinciau rhyddid.
Siriol arlwyddes eirian,—goronawg,
I'r ynys yn gyfran,
Hyd ennyd marwnad anian,
Boed onid el byd yn dân.
Rhynges bodd i'r Iôn roddi
Haul nef i'n goleuo ni;
Ei ddoeth Air coeth, athraw cain,
Yn ein hen—iaith wiw 'n hunain.
Rhodded areithwyr hyddysg
Egni dawn yn eigion dysg.
Er cof fyth o'r cyfieithwyr,
Sal'sbury, a Pharry, hoff wyr;
Hoff enw'r golygwr glân,
Mawryger Wiliam Morgan.