Neidio i'r cynnwys

Gwaith Dewi Wyn/Molawd Ynys Prydain III

Oddi ar Wicidestun
Molawd Ynys Prydain II Gwaith Dewi Wyn

gan Dafydd Owen (Dewi Wyn)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Molawd Ynys Prydain IV


III.—AMDDIFFYNWYR YR HEN BRYDAIN.

A geir adrodd gwrhydri
Ein gwychion henafion ni?
Hwynthwy a ddiffynnynt hon,
Weis dewraf, ynys dirion.


Dewrder ein Hynafiaid.

Brodyr iawn ddewrion mewn brwydrau'n ddirus,
Cyd-redeg, heb atreg, yn ddibetrus,
I ladd arfogawl luoedd rhyfygus,
A'u trywanu mewn modd truenus.

Dilwgr waelod yn dal gwroliaeth,
Megys Eidiol gyflymgais odiaeth;
Llymion eryron oll mewn aerwriaeth,
Teirw 'n hwylio, anturio 'n helaeth,
Llarpio, rhwygo rhywogaeth—plant estron,
Baeddu gâlon mewn buddugoliaeth.

Er gwyr arfawg, tariannawg, terwynion,
Ni rusent, ymroddent: O, mor ryddion!

Wynebent, anturient: onid dewrion,
Drywanu milwyr â'u dyrnau moelion?


Llwyr ofer i Humber hyll
Gyrchu yn arfawg erchyll;
Er chwai-gyrch ei farchogion,
Todd lli deifr Abi ei fron.

Y Prydeiniaid tanbaid, dewr,
I'w rhwygo, a'u llarpio 'n llwyr;
Gloewent, defnyddient yn awr
Gleddyfau a dartau dur.

Dyffestin mewn trîn hynt drom
Is cadr Efrog drylliog drem,
Maluriai Ffrainc, milwyr ffrom,
A'u difa drwy laddfa lem.


A phlaid ein henafiaid, hoew iawn nwyfiant,
Enwog wiw genedl yn ei gogoniant,
Ynfyd oedd ceisio lluddio ei llwyddiant;
Rhufeiniaid, gormesiaid, ymgrymasant,
Yn gwbl rif rhag Beli 'r ânt—dros fagwyr,
Eirw gerth aerwyr er eu gorthoriant.


Cynnen a Golud.

Pau Prydain llawn pob rhadau—derchafed
Drwy 'i chyfoeth a'i breiniau
I nen;—ond drwy gynnen gau,
Addfedodd i ofidiau.

Gwae wired yw y gair doeth,
Y daw gofid o gyfoeth.

I atal llesmair calon,—y gwinoedd,
Rhowch i'm genau weithion,
Tra bwy 'n adrawdd ansawdd hon,
Tan helbul gwlad hen Albion.


Y Rhufeiniaid.

Daeth Rhufeinwyr, gormeswyr grymusion;
Rhifai Iwl Caisar ryfelawg weision,
Liosog lu enwog, dilesg elynion,
A'u cais hollawl yn erbyn Caswallon:
Saethu er brathu'r Brython,—yn gelfydd,
Mal rhyw gawodydd eu haml ergydion.

A chref faniar goruwch y Rhufeiniaid,
Er eu dinistr, chwai a fu'r Prydeiniaid,
Nes trywanu y creulawn estroniaid;
Tra anhoff i'w dewrion troi'n ffoaduriaid.

Afarwy fradwy frodor, Gwawdd
Iwl, traws feddwl, tros fôr;
Herwr ffrom, o'i ddwy siom syn,
Ymliwiai, malai ewyn;
A'i fywyd o byd i'w bau
Dychwelodd; do, i'w chiliau;
A'i ryfyg yn arafu,
Gaisar fawr digysur fu.

Mor enwog ydych, hen Gymry 'n gadau,
Cywir i'ch brenin ceir eich bronnau;
A'ch gorwibiedig fachawg gerbydau,
Moch y chwilfriwiwyd, rhwystrwyd eu rhestrau,
Llwyr rwygwyd eu llurygau;—arfogol
Luon addurnol, wele hwy 'n ddarnau.

Caswallon.

Syllu yn wrol Caswallon eurwedd
Y bu 'r clau wyneb ar y celanedd;
Enwog ryfelwyr, d'ai mewn gorfoledd
Yn oll o'i wersyll i'w freiniawl orsedd.

Anghydfod, hell dyngedfen,
Naws o wae i'r i'r Ynys wen!


Y Gaerwen



Brad marwol ysbryd Meirig,
Gwawdd gâlon dewrion a dig.

Plocyn y gelyn a gaid,—a Gloew,
Uwch glewion Rufeiniaid,
A'u mwythion Fehemothiaid:
Rhag y rhain, Ow! plygai 'n plaid.

Cŵyn i filwyr Cynfelyn,—o'u gostwng
Dan gysteg llu 'r gelyn;
Ar wasgar er goresgyn,
Eu rhwysg ataliwyd ar hyn.

Caradog.

Cardawg alluawg, digoll, eon,
Gwrolwych ef, a'r dewrwych frodorion,
Orhyfion luedd, a'u heirf yn loewon,
Blaenor ydoedd mewn trinoedd terwynion;
Rhag ei air gwelwai 'r gâlon;—eryr craff,
Er gwneyd llwyr wastraff ar gnawd llu 'r estron.

Dirus wyr grymus ar grwydr—ormeilwyr,
Malodd hwynt fal glas-wydr;
Ymlidiodd wyr mawladwy,
Drwy egni braich drugain brwydr.

Aregwedd dromwedd ei drych,—o'i dichell
Bradychodd y dewrwych;
Wrth gofio hon, bron ci brych,
Ar nadredd yr wy 'n edrych.

Holl ryfelwyr, baeddwyr byd,
Pellenig, grwydredig draed,
Ein hoff fro gain wen ei phryd,
Drwy drin groch fu 'n goch o'u gwaed.
Tiriodd y gwylliaid dewrion,
Yn llu mawr, i ennill Môn;

Eu cyllyll a'u picellau,
A'u gwaewffyn,Och! goffhau.

Dagrau hyd ruddiau Derwyddon,—briw dwfn
A'u brodyr yn feirwon,
O afrad rhuthr y frwydr hon,
Gwae oer ofid gwyryfon.

Breuddwyd y Derwydd.

Hen Dderwydd llesg yn ddirym,
Saeth ddi nawdd yw adrawdd im,
Ymfwriai mewn myfyrion,
Yn ddwys â phwys ar ei ffon;
Ow! a deigr hallt y gŵr hen
I'w ruddiau dan dderw wydden;
Gan ludded caled, wr cu,
Y gwasgwyd ef i gysgu.
Tybiai 'n rhwydd weld Derwyddon
O'i amgylch yn llwyd—gylch llon;
Wrth eddyl areithyddiaeth
Deffroed gân ei dafod ffraeth;
O ethryb cael siom, athrist
Ymrôdd, e drengodd yn drist.
Gwae Arfon, a'i hydron hi,
Mewn galar trwm yn gwelwi;
Llesmeiriawg, frwynawg fronnau,
Trais tost oedd yn eu tristhau;
Eryri 'n well yr awrhon
I'w brodawr na maenawr Môn.

Buddug.

A Môn dan wastraff min dinistrwyr,
Tarawai Buddug etwa 'r baeddwyr;
Haedd ganmoliaeth: O, egni milwyr
Llas y gâlon, lliosawg wylwyr.


Da deg Fuddug, odidog o foddau;
Eurawg felynwallt, modrwyawg flaenau,
Yn llaes a guddiodd ei holl ysgwyddau;
Goraddurnol wddf ac arddyrnau,
Hir-gariodd, hoew-wraig orau,—mewn lliwgar
Orloew dabar, wiw wrol dybiau.

O mor gu gwbl lu gwiw blaid
Yn brîd iawn o Brydeiniaid;
Er digwydd ei haflwydd hi,
Tueddes graig at doddi;
Cyd gwynodd, gwaeddodd y gwynt,
Afonydd a gwynfanynt;
Da oedd un alarnad ddwys,
Cerdd Teifi yn cwrdd Tafwys;
Si ereill yn cysuraw
Trist feirddion pendrymion draw.

Is Sefer, echrys ofid,
Rhwyg llwyr ymgrymu rhag llid;
Mawrhydri 'r ymerodraeth
Dileu 'n gwyr, i'n dal yn gaeth.
Wedi bod mewn trallod trwm,
Yn wrthddrych creulawn orthrwm,
Tynnwyd, dirymwyd yr iau,
Datodwyd, do, y tidau.

Y Saeson.

Ond wedi 'r rhyddhad odiaeth,
I'w gollwng o'r cyfwng caeth;

Deuai i Frydain, i'w difrodi,
Germaniaid, a gwylliaid o Gelli,
Gwyddyl, Brithwyr, ymdyrwyr di ri',
Hil hen grwydriaid gelynawg Rodri.
Dacw erlynwyr, dig greulonwaith,
Yr aneddau a'r tyrau 'n oddaith;

Ie 'r dinasedd ar dân noswaith,
Gan fflamau brwd olau bu 'r dalaith.

Y beirddion gweinion dan gur,
Heb destun na b'ai dostur;
Arwyddfeirdd yn cyd riddfan,
O frwyn dwys, a'u llyfrau 'n dân.

O brinder nifer, bu 'r dewr henafiaid
A braw o berygl o flaen barbariaid,
Anffawd aruthr, yn ffoaduriaid;
O warth rhag rhydraws ruthrau crwydriaid
Mewn og'fau neu gloerau galarynt,
Y beichiogion yn welwon wylynt,
Mewn cilfachau 'n mhlith main clafychynt;
Ar weis gwrol yno 'r esgorynt,
Y rhai 'n gadau dewrion a godynt,
Yn ngwaed trechwyr eirf angau trochynt.

At wyr Ogygia troi gwegil—Brithwyr,
Ar ôl Brython eiddil;
Clybu Rufain, hoewgain hil,
Eu du gwynion di gynnil.

Danfon cwyn, mewn brwyn a braw,
Trallodaidd at wŷr Llydaw.

Gwawdd cadawg eiddig gedyrn,
Gwarth hyll, a orug Gwrtheyrn;
A'i fab chwai, gwae fi, bu chwyrn,
Gwallgofus, fradwrus deyrn.

Ond dacw ben llawenydd:
Gwrthefyr ar fyrr a fydd;
Ac Emrys, enwawg Gymraw,
Yn dal drwg hell genedl draw;
Ac Uthr, iawn aruthr y nod,
Trwy derfysg, tri diorfod;

Ond llâs hwynt, nid o wall saeth,
Er dewred, drwy fradwriaeth.

Arthur.

Os yw gyfyng is gofwy—ar Brydain,
Wedi 'r brad ofnadwy;
O'r wlad hardd i'w herlid hwy
Cawn Arthur i'n cynorthwy.

Llu 'r Sais, bid yn llwyr y son,
A fedodd yn arfodion;
Y cefnfor, trwm ruo 'r oedd,
Achwyn o ddwyn byddinoedd;
Ail diddim ar led oeddynt;
Sofl, neu gawn, us o flaen gwynt;
Clodfawr, â'i gledd Caledfwlch,
Gwnai 'r brenin drwy 'r fyddin fwlch.
Pery yn hir ei glir glod;
Madru wna enw Medrod.

Ei lon olygon di lid,
Glain neu berl goloewa 'n bod:
Dychryn i'r gelyn a'i gad,
Tân rhuddgoch croch dros ben cred.

Llywelyn.

Llywelyn ddiball eilwaith,
Caffai rwysg; coffheir ei waith;
Ar for a thir hir barhau,
Heb ludded, llew 'n lladd bleiddiau:
Gan hil y Cymry dilyth
Bydd caniad ei farwnad fyth.

Owen Glyndwr.

Ein gwrol enwog aerwr,
Un glân deg Owain Glyn Dwr;
Owain er Prydain wr prif,
O'r dewrion aerwyr dirif;

Bu 'r dewraf o'r brodorion
Gynt a fu o Gaint i Fon.

O na buasai yn bwysig—i'n dwyn
Oddi dan iau Seisnig,
Gan Owain, ar ddamwain ddig,
Lu odiaeth Maxen Wledig.

Hen wrolion gwychion gant,
Mawryger hil Gomer gynt;
Trwst bys gwyn ar dynn aur dant,
Yw coffhau eu henwau hwynt.
Colli Lloegr wlad glodadwy,
Och o'r modd, o'u hanfodd hwy.

Nid cais na malais milwyr,—nid arfau,
Neu derfysg ymdreiswyr;
Diochel waith bradychwyr
Oll oedd yr achos yn llwyr.

Dyddiau'r Caethiwed.

Dan Iorwerth ddidynerwch—wylofus
Gyflafan a thristwch;
Anhoff lid i'r beirddion fflwch,
O'u gwrol dueddgarwch.

Beirdd a bôn ffyddlon yn ffoi,
Gan anheddwch drwch di drai,
Min y cledd awchlym yn cloi
Grymusion, wrolion rai.
Gan fraw, a cholli 'r awen,
Caid bardd nas codai ei ben;
Dan gur ffoadur ydoedd—
A gwae fi, y gaeaf oedd.
D'ai 'r eos gyd a'r wyalch,
Canai bwnc, o enau balch;

O'i hun yn gytun d'ai 'r gog
Er dyddanu 'r diddonicg;
Tri thant crwth, traethynt eu croew
Dri mein-lais yn dra mwyn-loew;
I'r mud ben d'ai 'r awen rydd;
Bu dirion yn bedwerydd
Main y graig wen, gymen gôr,
Llon gyd—dôn gar llaw 'n gwatwor.

Beirdd Cymru.

Er llid, er gofid, mor gu—er Tydain,
Mae'r teidiau yn prydu,
O wir reddf cynneddf canu,
Gwiw ddawn hed Gwyddon a Hu.

Yn mhob oes a gwiw-foes gant
Caid priffeirdd, wyr heirdd ar hynt;
Celfydd er Plennydd yw 'r plant,
Mal Alon a Gwron gynt.

Er tân flamawg deirt anhoff lymion,
A heigr ruthriadau gwŷr athrodion,
Y lleill â'u miniawg gyllyll meinion,
Uthr y bradwriaeth i'r brodorion;
Er cael adfyd, gan waedlyd genhedloedd,
Drwy greulon ymryson amryw oesoedd;
Wele o'r genedl lawer o gannoedd,
Ddianaf ddynion, heddyw 'n fyddinoedd.

Er i'r Sais mewn trais ein trin,
A dwyn ein gwlad, brathiad bron,
Cymraeg wir hen—aeg o'i rhin,
Ein gwir hawl pob gair o hon.
Ai er ei mwyn, eiriau mêl,
O'n ciwdawd hen cadwed hîl?
Tra rhed gwaed nac aed dan gel;
Parcher hon gan feirddion fil.


Bras Walia a breswyliwn;—ein helaeth
Aeg odiaeth a gadwn;
Ein Ner bythol a folwn,
Trwy hedd o fewn y tir hwn.


Nodiadau

[golygu]