Gwaith Edward Richard/Ateb i Gan y Bont

Oddi ar Wicidestun
Can y Bont Gwaith Edward Richard

gan Edward Richard, Ystrad Meurig

ATEB I GAN Y BONT.

ER swn ofer ddynion anallu a'u penhillion,
Yn canmol cymdeithion a'r haelion wŷr hy',
'Rwy' beunydd yn clywed am Bont Rhydfendiged,
Mor amled ochenaid a chanu.

Pont grin yn tin-grynu, pont dŵr yn pentyrru
Pont haf, a phoen Teifi, pan lifo hi ar led;
Gwirionedd sy' beunydd, â'r dŵr dros ei deurydd,
Gan gystudd o gwilydd ei gweled.

Mae'n fin-gul, mae'n fon-gam, mae'n wargul, mae'n ŵyrgam,
Mae llwybr di-adlam anhylam yn hon,
Ni welwyd un ellyll na bwbach mor erchyll,
Erioed yn traws sefyll tros afon.

Ni chei di'n y pentre', na merch wen i eiste,'
Dan son am weu 'sanau neu laesau ar dy lin,
Na rhynion o'r crasa', yn lân am felina,
Ond llif yn difetha dy fwthyn.

Pob awen sy'n gwywo, pob dyn sy'n oer diwnio,
Pob cangen sy' heb ffrwytho yn llwydo'n ei lle;
Ni welir ar fyrdro na glanddyn yn rhodio,
Na maen o'r bont yno ar bentanau.

Os llif dros y dolau fydd rhyngot ti a chartre',
Er bod melysderau dy gaerau'n dy go',
Yn llety'r aderyn, le noeth, dan lwyn eithin,
Neu frigyn coed eirin cei dario.

Mae Ned fel hen geubren, oer yw, heb yr awen,
Na synwyr yn gymen i'w dalcen, na dysg,
Gwell yn y gegin yw blawd y cardotyn,
Nag eisin oferddyn o fawrddysg.

Fe a'r gof yn ei gyfer heb ymswyn bob amser,
Gwellt yn y morter sy'n dyner yn dal,
Mae llwybr o gerrig yn ffordd ry foneddig
I ŵr nad yw debyg i Dubal.

Siôn Ifan y cloddiwr, hwyrfrydig hir fradwr,
I lawr a'r bolerwr adonwr i dân,
Ffwrdd, feddwyn, mewn cawell, aed ymaith fel parchell
Yr hen hwch, a chyfaill ei chafan.

Fe ddarfu'r hen gwnnwr rhwng glanddyn a glanddwr
Morthwylion y mwynwr yn bowdwr y bôn',
Mae'r cwrw wrth y pared, ni welir un llymed,
Na drws yn agored i Garon.

Nid a'i yn y diwedd i 'myrryd â mawredd,
Mi wn fod anrhydedd ein bonedd yn bur,
Ond teg i'r galluog ro'i law ar wŷr taeog,
A brigog air enwog yr anwir.

Os Pont Rhydfendiged yw gwenwyn y gweinied,
Cyfiawnder, heb arbed, fo'n gweled y gwall;
Y tân fo'n mynd trwyddi, a rhyw un y fory,
Fo'n peri pentyrru pont arall.

Nodiadau[golygu]