Gwaith Edward Richard/Can y Bont

Oddi ar Wicidestun
Bugeilgerdd yr Ail Gwaith Edward Richard

gan Edward Richard, Ystrad Meurig

Ateb i Gan y Bont

CAN Y BONT.

AM Bont Rhyd-fendiged mae son mawr synied,
Ar fyrr cewch ei gweled mor danbed â'r dydd,
Fel castell gwyn amlwg, goreulan i'r golwg,
Neu gadwyn i fwnwg afonydd.

Hi saif yn ei hunman, y Bont ar ddau bentan,
Yn hynod ei hunan, a llydan er lli';
Tra Banc-pen-y-bannau yn dal uwch y dolau,
A ffrydiau mewn tonnau'n mynd tani.

Gwna'r pentre' mwyn serchog, tros fyth yn gyfoethog,
Wrth ddwyn yr arianog yn llwythog i'r lle;
A phan elo'n athrist heb ddim yn ei ddwygist,
Hi helpa'r dyn didrist fynd adre'.

Os digwydd ar brydiau, fod llif dros y dolau,
A gwragedd y pentre'n eu crysau'n rhoi cri,
Geill cyfaill heb gafan, ar dwyllwch fynd allan,
Heb gwrdd ag un dafan o Deifi.

Bydd Dan yn ŵr cadarn a rhywiog i'r haearn,
Gof arfog gywirfarn i'r dafarn pan dêl,
Ar gawsai[1] lân gyson, o gerrig mwyn meinion
Yn union o'r afon i'r efel.



Er gwneud hon yn ffyddlon, er mwyn y glân ddynion
A rheiny'n gymdogion da mwynion i mi,
Bydd Ned o'r dre' druan, ar fyrder mewn graean,
A llawer awff trwstan eiff trosti.

Gwyr Gwnnws a Charon, cydunwch fel dynion,
Cewch felly'n gyfeillion wyr dewrion a dwys,
A sefwch yn ffyddlon tra pont dros yr afon,
A meibion o feibion i Fabws.

Mae eto le tirion, ei gofio fydd gyfion,
Yn llawn o gymdeithion hoff radlon a ffri.
Hir iechyd i'r achos, na welwyf mo'i wylnos,
Nac eos Nanteos yn tewi.

Na weler ond hynny, ond haf ar lan Teifi,
Na drain, na mieri, na drysni ar droed,
Na chafod na chwmwl yn blino ar ein meddwl,
Na son am air trwsgwl i'r Trawsgoed.

Y credit a'r arian sy'n nafu Siôn Ifan,[2]
Wrth yfed pob dafan yn gyfan o'i go',
Pan dreulio'r cyfeillgar ei geiniog yn gynnar,
'Difeirwch diweddar daw iddo.

Y cyfaill caruaidd, a saer y maen mwynaidd,
Cais wella dy fuchedd o'r diwedd, ŵr da;
Y dolur a'r dyli, o'th ledol, a thlodi,
Yw'r cwmni ddaw iti o ddiota.

Gwna cwrw a'r tobaco i Garon[3] hir guro,
Yn llydan a llidio a bloeddio'n wr blin,
Try allan yn ddrylliau y cerrig o'r caerau,
A seiliau'n holl greigiau'n hyll gregin.


Os cyll yr hen fachgen y ddiod o'i ddwyen,
Hoff liwgar, mewn fflagen, a'r ddeilen o'i ddant,
Ni thâl ei forthwylion un geiniog, na'i gynion
A'i ffyddlon ebillion a ballant.

Nodiadau[golygu]

  1. Causeway. Cym. Llangawsai
  2. O Ystrad; y saer a wnaeth y bont.
  3. Sion Caron, y mwynwr a gododd gerrig y bont.