Gwaith Edward Richard/Bugeilgerdd yr Ail
← Bugeilgerdd y Gyntaf | Gwaith Edward Richard gan Edward Richard, Ystrad Meurig |
Can y Bont → |
BUGEILGERDD YR AIL
Y TESTUN.
HYWEL AC IWAN yn cyfarfod yn y ty wrth Lyn Teifi yn
annogy naill y llall i ganu, yn achwyn ar yr amser, yn
cysuro ac yn cynghori eu gilydd. Swm y cwbl, "Yr un
peth angenrhaid."
HYWEL
HOFF iawn oedd gorffennu tŷ haf wrth Lynn
A'i donnau'n ymdanu yn loewddu at y lan,
Mae gweled ein gilydd yn llunio llawenydd,
Cawn beunydd gân newydd gan Iwan.
IWAN
Mae Hywel mor hwylus, mor wych, ac mor awchus,
Wr enwog o'r ynys, gardd felus, gerdd fwyn,
Min miwsig mwyn moesol ac araith ragorol,
Mor siriol a gwennol y gwanwyn.
HYWEL
Yn fore 'myfyrio mwyn gân a min Gweno
Yw golud bugeilio a rhodio'n wr rhydd,
Yn llwm ac ac yn llawen; mae'n amlach brig brwynen
Na deilen erfinen ar fynydd.
IWAN
Pa beth a dâl canu a diddan brydyddu,
A'm defaid o'm deutu yn llamu wrth y llyn,
Ac ereill wrth garu, â'u swyno a chusanu,
Yn denu'r fain aelddu f' anwylddyn
HYWEL
Dyn beunydd dan benyd wyf finnau'r un ffunud,
Heb obaith am iechyd i'm clefyd a'm clwyf,
Ond annerch lliw'r hinon â phinnau drain duon,
A danfon penhillion pan allwyf.
IWAN
Dibarch gan y merched a fydd dyn diniwed;
Ni fynnant hwy glywed na gweled y gwr,
Gwarth ydyw, gwrthodant, Fgoegennod, cydganant
A chwarddant am lwyddiant ymladdwr.
HYWEL
Yr Iddew'n awyddus a'r bydol wybodus
O flaen y dyn dawnus sy'n dewis y da:
A'r aeres wag goryn sy'n gwrthod y glanddyn,
A dderbyn oferddyn i fawrdda.
IWAN
Na son am fursennod na drygau bydragod;
O wrando cymhendod coegennod cei gas;
Hwy fyddan' anfodlon i garu dyn gwirion,
A ffyddlon i'r dewrion wŷr diras.
HYWEL
Mae'r awel yn chwythu uch ben a chwibanu;
Gwêl acw'r hwrdd torddu yn llechu'n y llwyn;
Mae'r adar hyfrydlais vn canu symudlais,
Rhwng cangau (cais gydlais) cysgodlwyn.
IWAN
Nid hir bydd gan landdyn iaith hylwydd na thelyn,
Byd drwg sy'n gyffredin yn dilyn y da:
Mae cainc yr aderyn yn arwydd o ddryccin;
Mwy cytun â'r henddyn yw'r hindda.
HYWEL
Yr oit ti'n llanc llawen, yn llawn o'r "Feillionen,"
Fe nythai'r fwyalchen dan dalcen dy dŷ;
Peth rhyfedd i dderwen, mor union a brwynen,
Fel 'sgolpen o'r gromen, wargrymu.
IWAN
Lle bum yn byw'n benna o gant ar y cynta,
Rwy'n awr y gwr gwaela a lleia'n y llys;
A'r ddwyrudd i'r ddaeren, a 'ngham yn anghymen,
Ar ddeutroed anniben a nawbys.
HYWEL
Cofleidio mae'r cyfion ddewisol, dda weision,
A golud i'r galon mae'n danfon, a dysg;
Bastardiaid a lysa, a châsbeth ni chosba,
Lle 'i cara, cerydda, cair addysg.
IWAN
Bucheddu'n hiraethlon ar ol hen gyfeillion,
A ysgarai'n ysgyrion y ddwyfron o ddur;
Ni feddaf fawr iechyd, na chyfaill gwych hefyd
I ddweyd wrth f' anwylyd fy nolur.
HYWEL
Fe ddarfu'r hen amser o fyw mewn esmwythder
Ar giniaw, ac ar swper, mewn llawnder yn llon:
Heddyw'n chodfori a'n tafod Lynn Teifi,
Y fory'n llon ganu'n Llynn Gynon.
IWAN
Lle byddo cybydd-dod yn cloi ar gydwybod.
Ni ddyry neb gardod heb ddannod i ddyn;
O'r afon yr yfant, a'r bwyd hwy arbedant,
A dynn o'r byw gilddant bugeilddyn.
HYWEL
Eu hwswi at ei hosan gyr ymaith a'r cryman,
Ac erlid o'r gorlan yr aflan o ryw ;
A chais at ei chosyn amynedd, a'i 'menyn,
Y gelyn i'r enllyn o'r unlliw.
IWAN
Y cerlyn creulona', a'i fol a ryfela;
Ei ocraeth a lygra, e bydra'n y bôn:
Mae dynion diddoniau, rhai dall, â rhidyllau
Yn arfer cau beddau cybyddion.
HYWEL
Lle dygai'r gymdogaeth yn hwylus a helaeth
Am ddawn ei farddoniaeth wiw luniaeth i lanc;
E fagodd cenfigen o Glarach i Glaerwen,
Mae hyn yn dwyn awen dyn ieuanc.
IWAN
Os colli di'r gallel, a'r byd os a'n isel,
Ni wahawdd neb Hywel, wr tawel, i'r tŷ;
Ni welir ar wyliau y bardd wrth eu byrddau;
I ddrysau ceginau cei ganu.
HYWEL
Pe gwyddit di ragor na Bugail Llangoedmor,
(Ac aur ym mhob goror yw cyngor y call)
Heb dâl am dy lety gwell dal ar y neilldu,
Rhag iti, fardd, oeri ar fwrdd arall.
IWAN
Tra'r march yn gorchfygu yn wych ac yn wisgi,
Fe gaiff ei glodfori a'i berchi'n y byd;
Pan gollo fe'r gwirfaes yn oerllwm a hirllaes,
Ni chlyw ond Ffei dinllaes ffwdanllyd!"
HYWEL
Mae llawer fel llewod yn wrthun, neu arthod,
Er gwaetha cydwybod yn gwrthod y gwir;
Pa fugail a ganai (a gweled mynyddau
Fel hendre dan gaeau) dôn gywir?
IWAN
Er bod ambell fwthyn ar Fynydd y Brenin
I dderbyn bugeilddyn o'r dryccin ar dro,
Er hynny ar groen hwnnw, o Ffair-rhos i'r Dderw.
Nid oes ond blew garw'n blaguro.
HYWEL
Mae cyflwr y deiliaid yn gul ac yn galed,
A blinder eu llygaid yw gweled y gwas
A'i ogwydd i wagedd, i fâr ac oferedd,
Wrth fuchedd a rhinwedd yr henwas.
IWAN
Nid chwith y pryd hynny i'r forwyn arferu
O'i bodd ymdrybaeddu, a chrafu'n ei chrys;
Swydd arall sy'r awrhon, a gwewyr ei galon
I'r hwsmon yw min-gron a'i meingrys.
HYWEL
Mae llawer un lliwus er byw yn helbulus
Na phrofi bwyd blasus a melus i'r min,
A'i fwthyn difoethau heb fêl nac afalau,
Na chnau yn ei gaerau nac eirin.
IWAN
Ceilogod, cwn hirion, a ffydd yn y porthmon,
Na âd i'w gymdogion na chynffon na chorn,
A yrrodd rai gwledydd a'r dŵr ar eu deurudd,
A'u meusydd a'u bencydd heb un-corn.
HYWEL
Y synwyr a brynodd ein ffydd a ddiffoddodd,
O Feurig ! tros foroedd e giliodd y gân,
Y tiroedd a'r trethi a dorrodd ein dyri,
A chwmni hen chwilgi ein uchelgan.
IWAN
Crochan y felldith, a bara gwan gwenith
A yrrodd bob bendith a'r llefrith i'r llwyn;
A'r hwsmon, wr esmwyth, yn wan ac yn ddi-ffrwyth,
O'i dylwyth a'i danllwyth i dinllwyn.
HYWEL
Anaddas i nyddu, na bod yn y beudy,
Trin llwch trwyn a llechu, darparu dwr poeth,
A gwrthod y garthen, a wnaeth y wenithen
Yn laswen ei thonnen a thinnoeth.
IWAN
Y gwr o ragoriaeth ac aml gydymaith,
Pan wisgo'r gynnysgaeth, heb obaith i ben,
I garchar ag efo, fel dall wedi dwyllo,
Ni fedd o i'w roi dano redynen.
HYWEL
Y wreigan rywogaidd, a hinon ei hannedd,
Sy'n deall o'r diwedd, a'i llechwedd i'r llwch,
Mai sidan a siopau, cig gwyn a'r cacennau,
Yw mamau du fore 'difeirwch.
IWAN
Ni chawn ond achwynion yn nyth yr annoethion,
Seguryd sy goron i feibion y fall:
Dewisach it' oesi rhwng Claerwen a Chlaerddu
Na phlygu ac hyderu ar gwd arall.
HYWEL
Tor allan bob amser dy bais wrth dy bwer,
Byw'n uchel dy fwynder i drawster a dry:
Gwna'r manna dymunol a gwin yn ddigonol
I'r rhadol wr moesol ormesu.
IWAN
Er da ac er defaid, er meibion a merched,
Heb weddi iddo'n fwcled, er teced y tŷ,
Byr iawn fydd ei bara: y peth a ddisgwylia,
Lie gwela' ei dwf lonna, yw diflannu.
HYWEL
Er teced y tafod mae llawer un hynod
O eisiau cydwybod, a gormod o gest:
Peth anhawdd, 'rwyn'n tybied, i'w gael rhwng bugeiliaid,
Sy'n gwyliaid yr enaid, wr onest.
IWAN
Na ddewis y dderwen, na dyn wrth ei donnen,
Heb ddysg yn ei dalcen, na'i ddiben yn dda;
E ddaeth yn ein hamser, i'r byd amryw bader,
A llawer trwy Ficer Trefecca.[1]
HYWEL
Nid ydyw'r tai tecaf na'r tiroedd llydanaf
Yr arwydd cywiraf a phennaf am ffydd,
Na moethau ac esmwythdra; e' fydd, na ryfedda,
Lle gwreiddia gras benna', groes beunydd.
IWAN
Chwilia'r Ysgrythyr rywioglan, air eglur;
Mae llawer o dwyllwyr a bradwyr i'n bro:
Na âd i'r gau-frodyr, fy nghâr, na chyngorwyr
Disynwyr Deheudir dy hudo.
HYWEL.
Tra'r byd anwybodus tan ladron twyllodrus,
Hil Uzza ryfygus, cwn gwancus i gyd;
Iach eiriau ni charan', trwy ffydd hwy offryman Y cyfan, &c.
IWAN.
Wrth edrych a rhodio, byw'n gul a bugeilio,
Mae'r bellen heb bwyllo yn llusgo at y llwch;
Dewisach mewn dyffryn im' fath o ryw fwthyn,
Pe'i cai dyn da dyddyn dedwyddwch.
HYWEL.
Mae'n anhawdd cael unman heb nyth y Lefiathan,[2]
Sy'n achub y ddwyran yn gyfan i'w gwd;
Na osod dy lety yn agos i'r fagddu
Sy'n llyncu, gwae Gymru ! gig amrwd.
IWAN.
Ei iawn frawd o'r un fron yw'r Behemoth[2] creulon
Gwir lun eu tad Mammon, rai duon a dig,
A'u dannedd hyll allan, na ddelo dryw druan
I ran y ddau aflan ddieflig.
HYWEL.
Gan faint ydyw brynti eu dwy rwyd a'u direidi
Mae'r plentyn, heb eni, 'n ymgroesi'n y groth:
Cymered y gigfran ei llwyth o'r Lefiathan,
A'r man y bu Haman, Behemoth.
IWAN.
Rhowch ddiod i landdyn, a llety i gardotyn,
Anrhydedd i frenin, a gwenyn i gwch :
Cyfrenwch o'ch cyfoeth, arweiniwch yr annoeth,
Eich gwisg i was tinnoeth estynnwch.
HYWEL.
Arferu a myfyrio waith ellyll, a thwyllo
Yn rhywiog, a rhuo, a bloeddio'n wŷr blin
Mae'r bras fel bu Rhosser,[3] â chig ar ei swper,
Mae'n rhaid i'r cul arfer cawl erfin.
IWAN.
Yn ol hir ymhaeru, waith angall, a thyngu,
Trwy'r trwch a gortrechu, a gwasgu ar y gwan,
Y geiniog oedd gynneu heb lid yn ei blodau,
Fel dwr o ridillau a red allan.
HYWEL.
Nid haeach er trawsed yw'r gelyn gwargaled
Sy'n ginio rhai gweiniaid, heb arbed yn byw,
Nas gall y Gŵr gwirion, sy'n gweled y galon,
Ro'i coron uchelfron yn chwilfriw.
IWAN.
Cais bwyll ac amynedd, a disgwyl y diwedd.
Cei weled plant camwedd, er cymaint eu llu,
A'u tegwch yn gwywo, y gwir yn blaguro,
A'r to sy'n dy flino'n diflannu.
HYWEL.
O eisiau gonestrwydd is wybren, a sobrwydd,
A chariad wych arwydd o sicrwydd y saint,
Mae'n wag yr ysgubor, y maes yn ddidrysor,
A'r môr yn dygyfor digofaint.
IWAN.
Er goddef hir gafod o newyn a nychdod,
Usuriaeth a sorod am bechod y byd,
E all y Tad tirion ro'i gras i rai croesion,
A'i ffrwythlon haf anfon hufenfyd.
HYWEL.
Hwyr wylo hir welir ar wyneb yr anwir,
Pan delo dydd dolur a gwewyr i gant;
Diogel tan greigiau, main nadd, a mynyddau,
Mewn tonnau na beddau ni byddant.
IWAN.
Nid oes ond un angen. Mae deunydd dy dalcen
Fel pêr olew-wydden ar haulwen yr haf;
Rho gyngor yn echwyn, mi dala iti'n ddibrin,
Nid wyf ond ysgellyn, os gallaf.
HYWEL.
Os mynni, was mwynaidd, drwy guro drugaredd
A'th ro'i mewn tangnefedd, wr llariaidd, i'r llwch :
Rho glust i'r eglwysi, na phaid â'r proffwydi,
Mae'r rhei'ny'n cyhoeddi cei heddwch.
IWAN.
Rhyfela'n ofalus â gwyniau drygionus,
Mae'r galon yn glwyfus, anhwylus yw hi,
Ac arfer elïau i laesu ar ei loesau,
Picellau a nodwyddau na'd iddi..
HYWEL.
Nac amau, gwna gymod a'th Dad a'th gydwybod,
Yn ddistaw dy ystod heb 'nafod i neb;
Drwy ddiwyd weddio, diwegi a diwigio
Lle bo, fe gâr wrando gwiriondeb.
IWAN.
Derchefi'n dra chyfion o'r gweryd i'r goron
Ond maethu'n dy ddwyfron y galon o gig,
A golchi'th bechodau yn lân ar dy liniau,
Dy glwyfau cyfadde', cei feddyg.
HYWEL.
Tro'r praidd i le dirgel, mae'n bryd i ni ymadael,
A thynnu i le tawel, tŷ'n isel tan allt:
Cawn ran o bob rhinwedd, gwnawn heno gynghanedd
Mewn gwledd o orfoledd i'r Feulallt.
IWAN.
Ni egyr yn agos un tŷ ond Nanteos,
A dal yn y cyfnos ei ddangos i ddyn,
Bob dydd yn ei blodau, un nos nid yw'n eisiau
Na moethau na chogau yn ei chegin.
HYWEL.
Yn nhŷ'r hael ei lygad mae bendith yn oestad,
A channoedd mewn cariad yn curo wrth y drws:
Am roesaw diweniaeth, llawenydd a lluniaeth,
Dros noswaith mae'm obaith ym Mabws.
IWAN.
Mae Mabws a'i meibion, gwir yw, i'r goreuon
Yn deg i'w chymdogion a'r tlodion, le tlws :
Boed heddwch a hawddfyd, lle cefais bob gwynfyd
O'm ieuenctid a'm mebyd, ym Mabws.
HYWEL.
Dedwyddwch da diddan fo'n nofio'n Llanafan,
A llety gwresoglan i'r truan a'r trist :
Gwyr enwog fel glasgoed fo'n tyfu'n y Trawsgoed,
A'u cas boed heb un droed yn bendrist.
IWAN.
Ar bob rhyw berffeithrwydd daw diwedd yn ebrwydd,
Ond cyfraith yr Arglwydd i'r dedwydd wr doeth
Sydd ehang a hyfryd: na weler, f'anwylyd,
O'n bywyd un ennyd yn annoeth.
EDWARD RICHARD A'I CANT.