Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf I/Cywydd y Farn Fawr

Oddi ar Wicidestun
Anfon Cywydd y Farn Gwaith Goronwy Owen Cyf I

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Bonedd yr Awen

CYWYDD Y FARN.

OD im dy nawdd a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau f' armerth o'm nertbyd
Yw Dydd Barn a diwedd byd;
Dyddwaith; paham na 'n diddawr
Galwad i'r ymweliad mawr?
Mab Mair a gair yn gwiriaw
Y dydd ebrwydded y daw;
Ai saint cytun yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw 'n agoriad in',
Gair Duw a gorau dewin;
Pa'nd gwirair y gair a gaf,
lach rad! a pham na chredaf?
Y dydd diogel y daw,
Boed addas y byd iddaw!
Diwrnod anwybod i ni
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f' Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid ef a'i Dad.

Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron dison y daw;
Gwae 'r diofal ysmala;
Gwynfyd i'r diwyd a'r da.
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws, à lluman Iesu;
Llen o'r ffurfafen a fydd
Mal cynfas, mil a'i cenfydd;
Ac ar y llen wybrenneg
E rydd Grist arwydd ei grog.
Yno 'r Glyw, Ner y gloewnef,
A ferchyg yn eurfyg nef;
Dyrcha 'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd y gwynt;
A'i angylion gwynion, gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr nerthol a dolef.
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch llif mor-ryd,
Uwch dyfroedd, aberoedd byd,
Gosteg a roir ac ust draw;
Dwrf rhaiadr darfu rhuaw;
Angel a gân, hoewlan lef,
Felyslais nefawl oslef.
Wrth ei fant, groewber gantawr,
Gesyd ei gorn, mingorn mawr;
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn ffraeth o saernïaeth nef.
Dychleim, o nerth ei gerth gân,
Byd refedd a'i bedryfan;
Pob cnawd o'i heng a drenga,
Y byd yn ddybryd ydd a;
Gloes oerddu 'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!

Pob creiglethr crog ogwymp,
Pob gallt a gorallt a gwymp;
Ail i'r ar ael Eryri,
Cyfartal hoewal a hi.
Gorddyar, bâr, a berwias
Yn ebyr, ym myr, ym mas,
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu for fwy;
Ni bu ddylif yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.
Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan lewyg gwyn haul awyr.
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poenloes cryf pan las Crist.
Y wenlloer yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych.
Syrth nifer y ser, arw son!
Drwy'r wagwybr draw i'r eigion;
Hyll ffyrnbyrth holl uffernbwll
Syrthiant drwy'r pant draw i'r pwll;
Bydd hadl y wal ddiadlam
Y rhawg a chwyddawg a cham;
Cryn y gethern uffernawl,
A chryn a dychryn y diawl;
Cydfydd y fall Ai gallawr;
Car lechu 'n y fagddu fawr.
Dyfyn a enfyn Dofydd,
Bloedd erchyll; rhingyll a'i rhydd:—
"Dowch, y pydron ddynionach,
Yng nghyd, feirw byd, fawr a bach;
Dowch i'r farn a roir arnoch,—
A dedwydd beunydd y boch."

Cyfyd, fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr a yr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don;
Try allan ddynion tri-llu—
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un o naddun yn ol.
Y dorf ar gyrch, dirfawr gad,
A 'n union gerbron Ynad.
Mab Mair ar gadair a gaid,
lawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd, welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw i'w ddwy law ddau lyfr:
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir llith
O'r ddeulyfr amryw ddwylith:
Un llith o fendith i fad,
A'r diles air deoliad.
Duw gwyn i le da y gyr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog, bradog eu bron,
Braw tostaf! ba raid tystion?
Da, na hedd Duw, ni haeddant,
Dilon yrr, delwi a wnant.
Y cyfion a dry Ion draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dihir,—hyrddir hwy,
I le is ei law aswy.
Ysgwyd y nef tra llefair
Iesu fad, a saif oi air:

Hwt! gwydlawn felltigeidlu,
I uffern ddofn a'i ffwrn ddu:
Lle ddiawl a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen a phoen na phaid;
Ni chewch ddiben o'ch penyd;
Diffaith a fu 'ch gwaith i gyd;
Ewch--ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg-o lân olwg nef,
At wyllion y tywyllwg,
I oddef fyth, i ddu fwg."
O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da 'n ehelaeth a wnaethant;
Dieuog wŷr, da a gânt.
Llefair yn wâr y Câr cu,
Gwâr naws, y gwir Oen Iesu:
"Dowch i hedd, a da 'ch haddef,
Ddilysiant, anwylblant nef,
Lle mae nefol orfoledd
Na ddirnad ond mad a'i medd;
Man hyfryd yw mewn hoewfraint,
Ac amlder y ser o saint,
Llu dien yn llawenu,
Hefelydd ni fydd, ni fu.
O'm traserch darfum trosoch
Ddwyn clwyf, fal lle bwyf y boch
Mewn ffawd didor a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen.
Gan y diafl ydd a 'r aflan,
A dieifl a'u teifl yn y tân.
Try 'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gâd gain a gyd ag ef,
I ganu mawl didawl, da,
Oes hoenus! a hosanna.

Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melused mawl IESU!
CRIST fyg a fo 'r Meddyg mau!
Amen!—a nef i minnau.

Wele dyna i chwi "Gywydd y Farn," ac odid na fydd ryfedd gennych, wedi gweled y gwaith, gael o hono gymaint cymeriad yn y byd. Ond os mawr iawn ei gymeriad, mwy yw 'r genfigen gan rai wrtho. Os nad ych yn dirnad paham y rhoddwyd y geiriau hyn yn ei ddiwedd:—

"Crist fyg a fo'r Meddyg mau;"

gwybyddwch mai claf, a thra chlaf, o'r cryd oeddwn y pryd y dechreuais y Cywydd, ac hyd yr wyf yn cofio, meddwl am farw a wnaeth imi ddewis y fath destyn.

Os chwychwi a fynnwch weled ychwaneg o'm barddoniaeth, gadewch wybod pa ddarnau a welsoch, rhag imi yrru i chwi y peth a welsoch o'r blaen, ac yna mi yrraf i chwi gywyddau o fesur y maweidiau. Yr wyf yn dyall fod yr hen Frutaniaid yn bobl go gymdeithgar yna yn Llundain; ond pa beth a ddywaid yr hen ddihareb? "Ni bydd dyun dau Gymro." "Non erunt consentientes duo Cambri." Gobeithio, er hynny, nad gwir mo bob dihareb; ac os e, mai nid dihareb mo hon, ond rhyw ofer chwedl a dychymyg rhyw hen wrach anynad, ymladdgar. Digon gweddol a thylwythgar y gwelais i hynny o Gymry a gyfarfum i â hwynt yn Lloegr.

Os tybiwch yn orau, chwi ellwch ddangos "Cywydd y Farn" i rai o'ch brodyr yn y cyfarfod misawl nesaf; yn enwedig i Huw Davis, neu 'r cyffelyb, a fo 'n hanfod o'n gwlad ni ein hunain. Ni 'm dawr i pa farn a roir arno, oblegid gael o honaw farn hynaws a mawrglod gan y bardd godidocaf, enwocaf, sy 'n fyw y dydd heddyw, ac, o ddamwain, a fu byw erioed yn Nghymru; nid amgen Llywelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr wyf fi yn ei gyfrif yn fwy na myrdd o'r mân-glytwyr dyriau, naw ugain yn y cant, sydd hyd Gymru yn gwybeta, ac yn gwneuthur neu yn gwerthu ymbell resynus garol neu ddyri fol clawdd. Pe cai y fath rimynwyr melltigedig en hewyllys, ni welid fyth yn Nghymru ddim amgenach a mwy defnyddfawr na 'u diflas rincyn hwy eu hunain.

Am y Gramadeg Arabaeg a Syriaeg, gadewch iddynt. Ni fynnwn i er dim eich rhoi chwi mewn cost na llafur er porthi fy awydd fy hun. Nid wyf fi eto berchen y boced a brynnai lyfr o werth dwybunt. Rhyw goron neu chweugain a fyddai ddigon gennyf fi wario ar lyfrau Arabaeg. Nid oeddwn i yn deisyf nac yn disgwyl yr aech chwi i'r boen o ymofyn gan fanyled yng nghylch y fath beth. Rhaid mi, heb y gwaethaf, roi heibio feddwl am y cyfryw bethau hyd oni throa Duw ei wyneb, a gyrru imi fy ngofuned neu ryw beth a fo cystal er fy lles. Rhaid yw yn awr arbed yr arian tuag at fagu 'r bardd a'r telyniawr, a chodi calon

"Y wraig Elin rywiog olau."

Am y llyfrau Arabaeg ac Ebrwy sydd yn eich meddiant chwi eich hunan, nid wyf mor chwannog a'u cybyddu oddi arnoch. Ni fyddai hynny mor llawer gwell na lladrad, oblegid fe orfyddai arnoch brynnu eraill yn eu lle hwynt at eich gwasanaeth eich hun. Mae 'n gyffelyb eich bod chwi yn dyall yr ieithoedd hynny, ac os felly, mi a wn i yn swrn dda anwyled y gall fod gennych y llyfrau. Mae gennyf fi yma Fibl, a Salter, a Geirlyfr, a Gramadeg Hebraeg; a dyna 'r cyfan; a da cael hynny. Ond am Arabaeg, ni feddaf lyfr o honi. Gwych a fyddai gennyf gael gwybod pwy yw Siancyn Tomos sy 'n dyall yr ieithoedd dwyreiniol cystal. Gwyn eich byd chwi ac eraill o'ch bath, sydd yn cael eich gwala o ddysg a llyfrau da, ac yn amgreiniaw mewn changder a digonoldeb o bob cywreinrwydd, wrthyf fi a'm bath sy 'n gorfod arnom ymwthio 'n dyn cyn cael llyfiad bys o geudyllau a goferydd dysgeidiaeth. Gwae fi o'r cyflwr!

Ni ddamweiniodd i mi adnabod mo Ieuan Fardd o Goleg Merton; ond mi a glywais gryn glod iddo; a thrwy gynhorthwy Llywelyn Ddu, mi welais ryw faint o'i orchestwaith; a diddadi yw na chafodd mo 'r glod heb ei haeddu. Er ei fod ef yn iau na mi o ran oedran, eto y mae yn hŷn prydydd o lawer; oblegid ryw bryd yn ngwyliau'r Nadolig diweddaf a ddechreuais i; ac oni buasai eich brawd Llywelyn, a yrrodd im ryw damaid o waith Ieuan, ac a ddywed yn haerllug y medrwn innau brydyddu, ni feddyliaswn i erioed am y fath beth. Tuag at am yr hyn yr ych chwi 'n ei ddywedyd, sef—mai Goronwy Ddu o Fon yw pen bardd Cymru oll, mae gennyf ddiolch o'r mwyaf i chwi am eich tyb dda o honof; ond gwir ydyw 'r gwir, yr ydych yn camgymeryd. Llywelyn Ddu yw pen bardd Cymru oll; ac ni weddai 'r enw a'r titl hwnnw ineb arall sydd fyw heddyw. Nid yw Ieuan a minnau ond ei ddisgyblion ef. Pwy a yf ei ddysg orau, ond hwnnw fo 'n wastadol tan law ei athraw?

E fu hynod iawn yr ymdrech rhwng gŵr o Geredigion a gŵr o Fon er ys gwell na thri chan mlynedd aeth heibio; sef Dafydd ap Gwilym a Gruffydd Grug; ac am yr wyf fi yn ei ddyall, Mon a gollodd a Cheredigion aeth a'r maes. Felly ninnau; pa beth yw Goronwy Ddu wrth Ieuan Fardd o Geredigion? Eto gwych a fyddai i Fon gael y llaw uchaf unwaith i dalu galanas yr hen Ruffydd Grug. Gwaethaf peth yw, nid wyf fi yn cael mo 'r amser, na heddwch, na hamdden, gan yr ysgol front yma, a drygnad y cywion Saeson, fy nisgyblion, yn suo yn ddidor ddidawl yn fy nghlustiau yn ddigon er fy syfrdanu a'm byddaru. Chwi welwch fy mod yn dechreu dyfod i ysgrifennu Cymraeg yn o dwtnais.

Gadewch cael clywed oddi wrthych cyntaf byth ag y caffoch hamdden; ac os oes gennych ryw lyfrau Hebraeg a dim daioni ynddynt, neu Arabaeg, a alloch yn bur hawdd eu hebcor, chwi ellwch eu llwybreiddio, &c. Bellach rhaid cau hyn o lythyr, oblegid ni erys Malldraeth wrth Owain, ac mae lle i ofni nad erys y post wrth Ronwy. Byddwch wych.

Ydwyf eich tra rhwymedig

a gostyngeiddiaf wasanaethwr,

GORONWY DDU, GYNT O FON,

Nodiadau

[golygu]