Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Argraff ar Flwch Tybaco

Oddi ar Wicidestun
Darn o Awdl Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Tri Englyn Milwr

Argraff
I'w dorri ar gaead blwch tybaco.

CETYN yw 'n hoes, medd Catwg,
Nid ŷm oll onid y mwg;
Gan hyn, os mwg yw 'n heinioes,
Da iawn! oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwia
Wnai o un-oes ddwy-oes dda.


Nodiadau

[golygu]