Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Darn o Awdl

Oddi ar Wicidestun
Marwnad John Owen Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Argraff ar Flwch Tybaco

DARN O AWDL I DYWYSAWG CYMRU.
Ar fesur gwawdodyn hir.

WYRE, wawr fore erfai, arwain
Dymawr dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddwaith ar euriaith i arwyrain
Drudfawr briodawr, eryr Brydain,
D'wysawg llym aerawg llu mirain—Dewi,
Dewr Ri Lloegr wedi llyw goradain,

Dithau, 'r por gorau ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad,
Deyrnwalch, eurgeinwalch, o rhoi gennad,
Dygwn, cynhyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon,
Drudion dirolion dy oreuwlad.

Cymer—nid ofer yw ein defod—
Cymer—anhyber gwyl in' hebod—
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri 'n diwrnod;—cymer
O ber hyfodd-der ein hufudd-dod.


Nodiadau

[golygu]