Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Bywyd yn y Wlad Bell
← Cychwyn | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Marwnad Lewis Morris → |
VI. O'R GORLLEWIN.
BYWYD YN Y WLAD BELL.
At Richard Morris.
YR ANWYL GYFAILL,—Ar ol cyd-alaru â chwi am farwolaeth eich dau frawd godidog, y nesaf peth a ddylwn ei wneuthur, yw mynegu ichwi pa fodd y digwyddws im' glywed y trist newyddion. Ar fyr eiriau fal hyn y bu. Chwi, fe weddai, a ysgrifenasoch at William Parry yn Middlesex yn y wlad yma, tros saith ugain milltir o'r lle'r wyfi yn preswylio; ac ynteu yn mhen hir a hwyr a 'sgrifennodd yma. Minnau a'i hatebais ynteu drachefn; ond byth gwedi ni chlywais na siw na miw oddi wrtho. Ofni yr wyf fod ryw chwiwgi wedi difrodi fy llythyr cyn ei roi i'r Parry. Nid oes yma ddim post yn myned trwy'r wlad fal yna; dim ond ymddiried i'r cyntaf a welir yn myned yn gyfagos i'r lle; ac weithiau fe fydd llythyr nowmis neu flwyddyn yn ymlwybrin deg milltir ar hugain o ffordd, ac yn aml ni chyrraeth byth mo 'i bennod. Hiliogaeth lladron o bob gwlad yw'r rhan fwyaf o drigolion y fangre hon, ac y mae ysfa ddiawledig ar eu dwylaw i fod yn ymyrraeth â phethau pobl eraill, ac i wybod pob ysmic a fo 'n passio rhwng Sais genedigol a'i gydwladwyr yn Lloegr. Mawr yw 'r chwant sydd arnynt gael gwybod helyntion gwŷr Brydain; a pha un a wnelont a rhoi gair da i'r wlad a'r bobl yn eu llythyrau at eu cydwladwyr ai peidio. Fe gyst imi fyned drugain milltir neu well, i roi hwn o'm llaw fy hun i ryw Gadpen ar fwrdd llong; onide ni ddeuai byth hyd yna, os daw er hynny. Mi 'sgrifennais atoch liaws o lythyrau yn nghylch wyth mlynedd i'r awron. Nis gwn a gawsoch ddim o honynt. Y mae yma, o fewn deugain milltir ataf, un Siôn ap Huw, Cymro o Feirionydd, yn berson mewn plwyf. Hwnnw a ddywaid imi fod fy nghyfaill Lewis Morris wedi cael ei daflu yn y gyfraith, a'i ddiswyddo, a'i ddyfetha, cyn iddo ef adael Cymru, ond nis clywsai mo'i farw. Fe ddywaid hefyd, fod peth o'm gwaith i yn argraphedig, a gwaith y Llew gyda hwynt. Gwych fyddai eu gweled. Do hefyd, fod gwaith Ieuan Fardd yn argraphedig. A ellir byth eu gweled tu yma i'r mor? Ni chaf na lle nag amser i ddywedyd ichwi ddim o'm helyntion ar hyn o dro. weloch yn dda 'sgrifennu, chwi gewch wybod y maint a fynnoch. Yr unig beth sydd imi i'w daer ddeisyf gennych yw, rhoi imi lawn gyfrif pwy yw y rhai o'm cydnabyddiaeth sy'n fyw, a pha le y maent, rhag imi 'sgrifennu at bobl yn eu beddau. Mae'ch nai, Sion Owen, Fwynwr? Mae Parry o'r Mint? Mae'r Person, Mr Humphreys? Ai byw Tom Williams, y Druggist o Lôn y Bais? Os e, yno y mae fyth? Ai byw Huwcyn Williams, Person Aberffraw? Ai byw 'ch tad? a'm chwaer Sian innau, yn Mynydd Bodafon? Mi gefais y newydd farw 'mrawd Owen yn Nghroes Oswallt. Yr wyf fi, i Dduw y bo'r diolch, yn iach heinyf; a'r wlad yn dygymod â mi 'n burion. Nid oes un o'm teulu Seisnig yn fyw ond fy mab Robert; ac y mae ef cymaint a mi fy hun. Yr wyf yn briod a'm trydedd wraig, a chennyf dri o blant a aned yma, heblaw Robyn. Gwlad dda helaethlawn yw'r wlad yma; ond nawdd Duw a'i Saint rhag y trigolion!—oddigerth y sawl o honynt sydd Saeson, ac nid da mo honynt hwythau holl. Anerchwch fy nghyfaill Parry o'r Fint, a Pherson y Twr Gwyn, a Sion Owen, Fwynwr; ie, ac Andrew Jones, a phob wyneb dyn a'm hadwaeno.
Duw gyda chwi oll! Mi fyddaf yn disgwyl llythyr yn mhen chwe mis.
Mi wyf yr eiddoch, etc.,
GORONWY OWEN.