Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Marwnad Lewis Morris

Oddi ar Wicidestun
Bywyd yn y Wlad Bell Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Calendr y Carwr (Rhan II)

MARWNAD LEWYS MORYS YSWAIN,
GYNT O FON, YN DDIWEDDAR O ALLTFADOG,
YN NGHEREDIGION; PEN-BARDD, HANESYDD,
HYNAFIAETHYDD, A PHILOSOPHYDD YR OES
A AETH HEIBIO; GWIR-GARWR EI FRENIN
A LLES CYFFREDIN EI WLAD; A HOFFWR A
CHOLEDDWR EI IAITH A'I GENEDL.

YN YR AWDL HON Y MAE PEDWAR MESUR AR HUGAIN
CERDD DAFAWD, YN NGHYD A NODAU YR AWDUR AR
RAI PETHAU HYNOD.


Englynion Unodl Union.
OCH dristyd ddyfryd ddwyfron,—Och Geli,
Och galed newyddion,
Och eilwaith gorff a chalon,
Och roi 'n y bedd mawredd Mon.

Mawredd gwlad Wynedd, glod union—ceinwalch,
Cynnor presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.


Cyd bai hirfaith taith o'r wlad hon[1]—yno,
Hyd ewynawg eigion,
Trwst'neiddiwch trist newyddion,
Ni oludd tir, ni ladd ton.

Mae tonnau dagrau digron—i'm hwyneb
Am hynaws gâr ffyddlon;
Llwydais i gan golledion;
Oer a fu'r hynt i'r fro hon.

Bro coedydd, gelltydd gwylltion—pau prifwig
Pob pryfed echryslon;
Hell fro eddyl llofruddion,
Indiaid, eres haid, arw son!

Soniais, sugenais gwynion,—do ganwaith,
Am deg Wynedd wendon;
Doethach im dewi weithion;
Heb Lewys mwy, ba les Mon?

Galar ac afar gofion—mynych ynt,
Man na chaid ond hoywon;
Nis deryw, ynys dirion,
Loes a fu waeth i lwys Fon.

Cywydd Llosgyrnog ac Awdl—gywydd yn nghyd.

Ni fu 'n unig i Fon ynys
Loes am arwyl Lewys Morys;
Ond erys yn oed wyrion
Ym mhob gwlad achwyniad chwith
O'i ran ym mhlith cywreinion.


Cywydd Deuair Fyrion a Deuair Hirion yn nghyd.

Cynnal cwynion
O dir i don,
Dan gaerau Prydain goron,
Yr ydis an Lewis lon.

Proest Cyfnewidiog Saith—ban.

Yn iach oll Awen a chân!
Yn iach les o hanes hen,
A'i felus gainc o flas gwin!
Yn iach im' mwyach ym Mon
Fyth o'i ol gael y fath un!
Yn iach bob sarllach a swn!
Un naws â dail einioes dyn.

Unodl Grwca.

Teiroes i'r mwyawr tirion,
O ras nef a roesai 'n Ion
O'i ddawn, o chawsai ddynion—eu meddwl
Ar fanwl erfynion.

Unodl Gyrch.

Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Môn,[2]
Ni adfer Ner amser oes:
Rhed einioes, nid rhaid unon.

Proest Cadwynodl.

Duw a'i dug ef, dad y gân,
Cywir i'w ddydd carodd Ion,
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau a 'n sant: tawn a son.

Clogyrnach.

Hawdd y gorthaw ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon;
O raen oer enaid,
Diau bydd dibaid
Uchenaid a chwynion.

Gwawdodyn Byr.

Cair och o'i hunaw, cur achwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.

Dau Doddaid.

Pa golled—gwared gwirion—o delmau
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion![3]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd,
Gwen nef a gafodd gan Naf gyfion.

Gwawdodyn Hir.

A fynno gyrraedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.

Byr a Thoddaid.

Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da 'i ofalon;
Siôr a garai is aur goron;


Lle bai gwaethaf llu bygythion,
Ni chair anwir drechu 'r union;
Dra gallawdd, nadawdd i anudon—dorf
Lwyr darfu 'r lledneision.

Dau Doddaid.

Bu 'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog
I'w hydr eneiniog Deyrn union;
Rhyngodd ei fodd a'i ufuddion—swyddau
A chwys ei aeliau â chysulion.

Gwawdodyn Byr.

Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion—a'u cymlawdd,
Iawn y danghosawdd, nid anghysson.

Dau Wawdodyn Hir.

Daear a chwiliodd drwy ei chalon;
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion,
A thew res euraid ei thrysorion,
A'i manylaf ddymunolion—bethau ;
Deuai i'r golau ei dirgelion.

Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau 'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr gannaid a ser gwynion;
Nodai 'r lloer a'i newidion ;—hynt cwmwl
O fro y nifwl i for Neifion.

Dau Doddaid eto.

Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion.
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd ;
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.

Gwawdodyn Hir.

Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dwr Bab'lon,
Coffa bri ethol cyff y Brython,[4]

Gomer a'i hil yn Gymry haelion,
Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth i dir Albion.

Gwawdodyn Byr.

A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.

Huppynt Byr.

Ni chaid diwedd
O'i hynawsedd
A'i hanesion;
Ni chair hafal
Wr a chystal
Ei orchestion.

Tawddgyrch Gyfochrog.

Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd enau, wiw 'mddiddanion.

Huppynt Hir.

Glyw defodau
Eisteddfodau,
A'u hanodau,
A'u hynadon;

Eu cyngreiriau,
A'u cyweiriau,
A chadeiriau
Uwch awduron.

Cadwyn Fyr

Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.

Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.

Ef oedd Ofydd
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.

Hir a Thoddaid.

Goleuodd wedi ei gywleiddiadon
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;
Athrawai 'n fuddiol a thrwy iawn foddion;
E gaed moes wiwdda gyd à masweddion;
Lle bu 'r diddysg hyll brydyddion,—brin ddau,
Fe rodd ugeiniau o hoywfeirdd gwynion.[5]


Cyrch a Chwtta.

Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.

Cyhydedd Naw Sillafog Chwe-ban.

A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith, a gwaed y Brython,
Ac Awen Gwyndud, ac ewyn gwendon,
Daear a nef a dŵr yn afon,
Ef a gaiff hoywaf wiw goffeion.

Cyhydedd Fer.

Aed, wâr enaid; aed, wr union;
Aed ragorwalch diwair, gwirion,
I fro Iesu fry a'i weision;
I'w gain gaerau a gwen goron.

Cyhydedd Hir.

Ac uned ganu, sant, wiwsant Iesu,
Ef a'i leng wiwlu, fil angylion;
Ein dof Oen difai, lwys wawd EL SADAI,
Musig adwaenai ym mysg dynion.


Gwawdodyn Byr.

Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.

Dau Wawdodyn Hir.

Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,
Gwaed ffrau, a ffrydiau dagrau digron,
A chur marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.

Eiddunaf finnau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu i geisio perwawd gyson
I lwyswawd eirioes Lewys dirion,
Cywyddau cu odlau cydlon—ganu,
Lle mynno Iesu, lleu Monwysion.

Yr Awdl hon a gânt GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl America; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg er ys gwell na deng mlynedd.

Gorffennaf 20, 1767.

Nodiadau

[golygu]
  1. Virginia yn America, lle y mae'r awdwr yn drigiannol, wedi colli y rhan fwyaf o'i deulu ar y môr wrth fordwyo yno o Lundain yn y flwyddyn 1757
  2. Felly Horatius:—
    Labuntur anni; nec pietas moram
    Rugis et instanti senectre
    Afferet, indomitaeque morti."
  3. Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy 'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau, amgea na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.
  4. Cyffy Brython. Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testun hwnnw; ond pa un ai bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.
  5. Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.