Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Colli Tymer
Gwedd
← Cywydd Ateb Huw ap Huw | Gwaith Goronwy Owen Cyf II gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Penderfynu Ymadael → |
COLLI TYMER.
At Richard Morris, Medi 27, 1756.
AM eich llyfrau chwi a fenthycais chwi a'u cewch pan fynnoch. Ni bum erioed ar gyngyd na'u bwyta na'u hyfed, na'u gwerthu, na gwneuthur ffagl o honynt. Ac am y Dafis yna, mae iddo groeso i'r dodrefn sydd heb dalu am danynt pan fynno; nid oes arnynt nemor of geiniogwerth. A phan ddelo amser cyfaddas, mi ddiolchaf i'r wyneb lleuen gadach am ei gastiau llechwraidd. Yr oedd y llechgi brwnt yn ddiswydd ddigon ddyfod yma gyda'r cynrhonyn coesgam hwnnw o fachgen i hel chwedlau; ac yn cydgoethi a chablu arnaf gyda'r dafarnwraig biglas yma, fal y mae hi ei hun yn addef yn awr wedi cymodi o honom.Y BARDD GWYLLT.