Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Dau Bennill Gwawdodyn Hir

Oddi ar Wicidestun
Cywydd ar Wyl Dewi Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Twm Sion Twm

DAU BENNILL[1] GWAWDODYN HIR,
I Gyfarch y Cymrodorion yn Llundain pan y cyflwynwyd
iddynt Annerch—Gywydd gan Ieuan Brydydd Hir.

Calan Mehefin, hin yn hoeni,
Cein trydar adar, hyar heli;
Cein rhawd cân wasgawd, trawd trwy erddi,
Cein tawel awel o wyrdd lwyni;
Ceinmycach, mwynach i mi—oedd acen
Cân awen lawen lên barddoni.

Canfum ddillynion gyson gerddi
Ceinfoes, cân eirioes, eres odli
Ceinfardd Deheudir Hir hoywfri,
Cywyddwawd moliant a gant ichwi;
Cyfarch hybarch heb eich coddi,—Frython,
Ceidr Gymrodorion dewrwych ynni.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cafwyd ymysg ysgrifau Ieuan Brydydd Hir, yn dwyn enw Goronwy. Rhoddwyd gan y Parch. D. Silvan Evans i'r Parch. Robert Jones, Rotherhithe. Tybia'r ddau mai gwaith Goronwy yw'r ddau bennill.