Neidio i'r cynnwys

Gwaith Goronwy Owen Cyf II/Molawd Mon

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Cryfion Byd Gwaith Goronwy Owen Cyf II

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cywydd Ateb Huw ap Huw

MOLAWD MON.

At William Morris, Awst 16, 1756.

Y CAREDIG GYDWLADWR,—Mi gefais yr eiddoch o Ebrill y trydydd ar hugain, yn nghyd a chywydd gorchestol y Bardd Coch, a diolch ichwi am danynt. Yr ych chwi, ac felly 'r Llew yma hefyd, yn taeru fod yr hen Goch druan wedi rhyw led hurtio; ond erbyn ystyried ol a blaen, glew y gwelwn i yr hen Gorphyn. Nid oes ar y cywydd gamp yn y byd; ond y mae ynddo lai o eiriau segur nag a fyddai yn arferol o fod yn ei gywyddau; ie, ac yn nghywyddau gwŷr dysgedig a sorrent am eu henwi yr un dydd a'r hen Goch. Ac os rhwydd iddynt hwy hepian, ni fyddai rhyfeddod yn y byd i'r Coch drymgysgu a chwyrnu hefyd. Gwrda yr hen geiliog, meddaf i, dywedwch chwi a fynnech. Mae yma ateb gorchestol i'r hen ddyn wedi ei wneyd er ys ennyd; ond mae 'r Llew i'm rhwystro i'w yrru yna, ac onide yr oedd yn fawr fy mwriad i yrru atoch y tro yma. Dyma fal y mae y peth yn bod. Fi a wnaethwn gywydd o ddeucant o linellau neu ychwaneg, a'i ddechreu ydoedd ateb i'r Coch; a hynny yn nghyd a ddeugain neu ddeg a deugain; ac oddi allan yr oedd mawl i Ynys Fon, a chofrestr o'r beirdd hynotaf a fagwyd ynddi gynt, a dysgrifiad prydferth o'r wlad a'i hamryw doreithiau; megis anifeiliaid, pysg, adar, yd, caws, gwlan, mwyn, a chan peth cyffelyb. Mi yrrais y cywydd i'r Llew, ac yntef a yrrodd attaf ddoe fal hyn:—

"It is a pity your Cywydd Mon did not stand upon its own bottom without being tacked to such a worthless piece as that of Bardd Coch's. The man meant well, but it is the worst thing he ever. wrote. But whatever it is, this excellent description of yours of the island should not be read the same day with it, for it is too like feeding a man with stinking meat the first dish, and the second with fresh ortolans."

Felly chwi welwch fal y mae; fe gyst gwahanu y cywydd yn ddwy ran; y gyntaf yn bwt byr of ateb i'r Coch o'r Foel; a'r ail yn glamp o Gywydd Mawl Mon,' a bid sicr ichwi y ddau y tro nesaf. Ie, meddwch chwithau, pa bryd a fydd hynny? Fy ateb yw: Na ewch i ymhel ac ymliw â mi, am fy niogi; canys os diog fi, mi wn pa le mae imi gymar, a moeswch yma eich llaw hyd at yr arddwrn. Ond chwi a'i cewch pan atebwch hwn, ac nid cynt.

Nodiadau

[golygu]