Gwaith Gwilym Hiraethog/Ar ymweliad i Gymru

Oddi ar Wicidestun
Yng nghadair Prifardd Gwaith Gwilym Hiraethog

gan William Rees (Gwilym Hiraethog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
R ap Gwilym Ddu


AR YMWELIAD I GYMRU

CYMRU anwyl! mae fy nghalon
Yn dychlamu dan fy nwyfron,
Wrth arogli'r iach awelon
Oddi ar dy dir;
Cael dod i yfed iechyd,
Ar dy fryniau hyfryd,
O fŵg y dre', afiach le,
A'i nwyfre gas anhyfryd;
A chael treulio gweddill einioes,
Olaf oriau 'r freuol ferroes,
Yn dy oror, fy ngwlad eirioes,
Wy'n ddymuno 'n wir.
Gosteg, fôr! bydd di yn dawel,
Na chyfoda 'th donnau 'n uchel,
Tra bwy'n hwylio o flaen yr awel
Tua Chymru fad,
Pam yr wyt yn brochi?
Beth a wnaethum iti?
Pam mae stwr dig y dŵr
A'i gynnwr yn gweini?
Nid rhyw Jonah 'n ffoi i Darsus,
Ydwyf fi, boed hyn yn hysbys
 Iti, fôr, bydd dangnefeddus—
Gad im' fynd i'm gwlad.
Henffych well! mi welaf lannau
Menai deg, a hen fynyddau
Oesol Arfon, a ffynhonnau
Ar eu pennau dardd:
Treigla gloewon ffrydiau
Tros eu serthion ochrau,
Chwery 'n llon ar eu bron,
Belydron haul y boreu;

Natur fel y daeth hi allan
O dan law y Crewr ei hunan,
Heb ddim ol llaw dyn yn unman—
Dyna 'r lle i fardd.

Henffych well i'r dydd a'm dygo
Eto i Gymru fwyn i drigo,
A chael byw ac aros yno
Hyd i derfyn oes;
Gado'r Fabel Seisnig,
A'i thwrw cas anniddig,
I fwynhau tawelwch clau
Bro 'n tadau—le breintiedig;
Dianc ymaith o afaelion
Pla anfelus blin ofalon,
Llechu rhwng ei bryniau tirion,
Heb na chri na chroes.
Anghlod fyth i'r dynion diffaeth,
Cyflog—weision y llywodraeth,
A ddygasant gamdystiolaeth
Am fy hoffus wlad.
Er hynny, Gymru dirion,
Cymer di rybuddion;
Cofia gais y tri Sais,
Clyw lais eu llyfrau gleision;
Dilyn sobrwydd a diweirdeb,
Ym mhob ardal, cynnal burdeb,
Cadw eirda mewn cywirdeb,
Gochel dwyll a brad.

Bendith nef orffwyso arnad,
Tra fo llewyrch haul a lleuad,
Cyd—deyrnased hedd a chariad,
Rhwng dy fryniau di;

Meithrin ddysg a rhinwedd,
A rhodia mewn anrhydedd;
Gochel ffol fynd ar ol
Wag farwol goeg oferedd,
Tra bo'r môr yn golchi'th lannau,
Tra Eryri ar ei gwadnau,
Nac anghofia iaith dy dadau—
Cadw, coledd hi.


Nodiadau[golygu]